Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Held by Will Millard

Will Millard

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfeithiolAdrodd StoriPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Will Millard yn awdur ac yn gyflwynydd i’r BBC sy’n arbenigo mewn straeon dynol rhyfeddol, hanes naturiol, a byw’n anghysbell.

Hyd yn hyn, mae wedi ysgrifennu pedwar llyfr ffeithiol i oedolion: dau fel rhith-ysgrifennwr, un fel cyd-awdur, ac un fel unig awdur, ar gyfer argraffnodau Penguin Ebury a Viking, ac, yn fwyaf diweddar, PanMacMillan. Dilynodd ei ymddangosiad cyntaf, The Old Man and The Sand Eel (Viking, 2018), ei ymgais dwy flynedd i dorri record pysgota Prydeinig; a threuliodd 2022 yn gweithio gyda meudwy o’r Alban ar The Way of the Hermit — sydd i’w ryddhau ym mis Mehefin 2023 ar gyfer PanMacMillan. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau i blant sy’n dechrau darllen ar ecosystemau bychain gyda Magic Cat, ac mae My First Day Fishing i’w gyhoeddi gyda nhw yn 2023. Mae ei gredydau rhith-ysgrifennu yn cynnwys gwerthwr gorau’r Sunday Times ar fywyd bugail, ac un arall ar filfeddyg ynysig.

Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd ar faterion amgylcheddol, antur, iechyd meddwl, a physgota (gan gynnwys gwefan y BBC, The Guardian, Fallon’s Angler, The Telegraph, Countryfile Magazine, Vice, a Geographical) ac mae’n siarad yn aml mewn theatrau, gwyliau ac ysgolion — yn darllen o’i lyfrau ac yn dod â’r byd naturiol, a’i anturiaethau, i’w gynulleidfa trwy gyfrwng siarad ac arddangos.

Ar wahân i’w waith ysgrifennu, Will yw cyflwynydd rhaglen ddogfen fuddugol BAFTA Cymru mewn saith o gyfresi BBC (gan gynnwys Hunters of the South Seas, My Year With The Tribe, Hidden Wales, the River Wye, the River Taff a Go Fish! ). Roedd yn arweinydd alldaith jyngl am bron i ddegawd ac mae’n falch o fod wedi cael byw, dysgu, a gweithio ochr yn ochr â rhai o’r cymunedau brodorol mwyaf anghysbell ar y ddaear.

Mae’n Gymrawd o’r Winston Churchill Memorial Trust a’r Royal Geographical Society (RGS); yn Llysgennad i’r Angling Trust, y World Fish Migration Foundation, a Chadwch Gymru’n Daclus; ac yn Noddwr balch iawn o Mobile Education Partnerships, sy’n darparu hyfforddiant athrawon ac adnoddau i fyfyrwyr ac athrawon mewn rhannau o Fyanmar a ddifethwyd gan ryfel.

Os nad yw’n eistedd wrth fwrdd y gegin yn ysgrifennu, mae’n debyg ei fod allan yn pysgota rhywle yn ein dyfrffyrdd gwych yng Nghymru.