Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Dewi Griffiths 2023

Dewi Griffiths

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish , French, Arabic, Spanish, Romanian, Urdu, Hindi

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Brodor o ogledd Sir Benfro yw Dewi Griffiths.
Yn Sir Benfro seliwyd chwedlau y Mabinogion, a storiau am yr Arall Fyd.
Cafodd tirwedd, iaith a chwedlau Sir Benfro argraff gryf ar Dewi wrth iddi dyfu i fynny ar yr arfordir gwyllt.
Daeth ei gariad am greu storiau, sgiliau ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau ynghyd, a creuodd Dewi yrfa wrth weithio ar ffilmiau a theledu byd-eang. Fe weithiodd i’r BBC, S4C, ITV, Sky, Merchant Ivory, yng Ngymru, Prydain, dros Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol, Pacistan ac Affrica.

Yn ogystal â gwaith cynhyrchu, fe wnaeth Dewi ysgrifennu sgriptiau a chyfarwyddo ffilmiau hir a byr, wastod yn ffilmiau arswyd neu ffantasi.
Mae Dewi yn cyhoeddi ei waith trwy Garland Stone Productions Ltd.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Dewi wedi dechrau ysgrifennu nofelau.
Storiau o Gymru, Yr Iwerddon, Lloegr a Scandinavia yw ei nofelau, gyda y rhan fwyaf yn y maes creadigol a greuodd, Borderland.
Mae ‘Old Flames’ a ‘Black Valley’ (cyd ysgrifennwr John Washbourne) ar gael mewn clawr meddal trwy Gyngor Llyfrau Cymru a thrwy wefan Garland Stone.
Mae ei nofel ddiweddaraf, ‘Folk Devil’ ar gael o Amazon a Bookbaby yn ffurf e-lyfr, megis nofelau eraill ysgrifennwyd gyda John Washbourne, sef Witch Sight, Blood Eagle, ac Away Game.
Mae ‘Old Flames 2’a ‘Witch Sight 2’ i’w rhyddhau yn hwyrach yn 2023.

Wrth orffen ei yrfa ym myd ffilm a theledu, fe aeth Dewi i weithio i’r American Film Institute a’r University of Southern California Film School i ddysgu Cynhyrchu yn The Red Sea Institute of Cinematic Arts yn y Iorddonen, yn dysgu myfyrwyr ffilm o ar draws y byd Arabaidd.
Heddiw, Dewi yw’r Prif Ddarlithydd yn Cynhyrchu Ffilm yn Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, ym Mhrifysgol De Cymru.
Cewch fanylion ar holl waith Dewi wrth edrych ar www.dewigriffiths.com a www.garlandstonepublications.com