Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Irram Irshad

Irram Irshad

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Irram ydw i o Gaerdydd. Dw i wedi bod yn ysgrifennu ers pan oeddwn yn fy arddegau, ac yn 2023 fe wnes i wireddu fy mreuddwyd o ddod yn awdur cyhoeddedig. Dysgais Gymraeg fel oedolyn ac ar hyn o bryd dw i’n colofonydd am ar-lein y dysgwr Cymraeg Lingo360 (erthyglau hanes, iechyd a storiau). Dw i’n gyfrannwr storiau byr i Cip, cylchgrawn yr Urdd i blant. Rwyf hefyd yn ysgrifennu erthyglau Saesneg i Bylines Cymru a Welsh Histories. Mi wnes i gyhoeddi dau lyfr dwyieithog yn 2024 – casgliad o farddoniaeth ‘Cymraeg, Asiaidd a Balch’ a chasgliad o straeon byrion ysbryd ‘Fe Ddaw Atom Ni Oll’, sydd ar hyn o bryd wedi’u stocio mewn siopau llyfrau annibynnol yn Ne Cymru ac i gael eu stocio’n ehangach gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2025 mi wnes i gyhoeddi casgliad o straeon arswyd, ‘What Lies Beyond’ a fy nghasgliad cyntaf o straeon i blant o’r enw ‘Betsi, The Cool Cat and other stories’. Yn 2026, cyhoeddais fy llyfr non-fug ‘Celebrating Welsh Heroines’ am y tro cyntaf. Daeth hyn i fod o fy erthyglau yn Lingo360 am fenywod Cymreig anhygoel dros y canrifoedd na ddylid eu hanghofio. Mae gen i gyfresi bysograffiaeth non-fug eraill i’w cyhoeddi yn y blynyddoedd nesaf, cyn i mi ddychwelyd at ysgrifennu ffuglen, gobeithio fy nofel gyntaf. Rwyf wedi ymddangos ar S4C a Radio Cymru, yn ogystal â bod â’r anrhydedd o ddarllen fy barddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn 2025.