Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Siân Marlow 2024

Siân Marlow

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

English , Swedish, Norwegian, Danish, German

Ffurf

BarddoniaethFfuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Symudodd Siân Marlow, a anwyd ym Mrymbo, pentref bach ger Wrecsam yng ngogledd Cymru, i Reading yn 2010. Ac yno mae hi’n dal i fyw gyda’i gŵr, ei mab, a’u dau gi mawr. Graddiodd â gradd mewn Ieithoedd Modern o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, gan arbenigo mewn Swedeg ac Almaeneg. Yna, dechreuodd Siân ei chwmni cyfieithu bach ei hun, Midnight Sun Translations, fel ffordd o fwynhau ei hangerdd am y gair ysgrifenedig. Mae gan Siân radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol gyda Rhagoriaeth o Brifysgol Reading, ac ysgrifennodd ei nofel gyntaf – a ddisgrifiwyd fel “darn o waith cymhellol ac eithriadol” – fel rhan o’r rhaglen hon. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio am radd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Reading, ac mae’n archwilio tirweddau, chwedlau a hunaniaeth Cymru fel rhan o’i gwaith ymchwil. Cafodd ei stori fer, ‘Echoes’, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies yn 2024, ac ymddangosodd hefyd yn y flodeugerdd, A Dictionary of Light, a gyhoeddwyd gan Parthian Books.