Dewislen
English
Cysylltwch

Nia Williams

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

English 

Ffurf

FfuglenAdrodd Stori 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Awdur a cherddor llawrydd yw Nia Williams, yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yn Rhydychen. Mae wedi ysgrifennu wyth nofel: The Pierglass (Honno Modern Fiction, 2001); Persons Living or Dead (Honno Modern Fiction, 2005); The Colour of Grass (Seren Books, 2011); Birdcage (Gurning Gnome, 2013), Hidden Gems (Gurning Gnome, 2014), Breakage (Gurning Gnome, 2017), Touched (Gurning Gnome, 2021) a Vera Venti (Gurning Gnome, 2021). Cyhoeddwyd ei straeon byrion mewn cylchgronau a chasgliadau; cafwyd nifer eu darlledu ar BBC Radio 4 a Radio Wales, a’u cyfieithu i Tsiec a Ffrangeg. Mae ei chwmni theatr Three Chairs and a Hat wedi perfformio sawl sioe gan Nia o gwmpas y DU ac fel rhan o wyliau ‘fringe’ Caeredin a Camden; mae ei sioeiau animeiddiedig yn ffrydio ar blatfform digidol Scenesaver. Yn y maes gerddorol, mae Nia’n gweithio fel cyfeilydd a chyfarwyddwraig cerddorol, ac yn arwain gweithdai cerddoriaeth ac adrodd straeon. Mae hi’n artist cyswllt hefo English National Ballet, ac yn aelod sefydlu grwp gweithdai MuMo Creative. Ymysg sawl sefydliad theatr a cherddorol, mae Nia wedi gweithio ar gyfer Scottish Ballet, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera a’r Academi Gerddoriaeth Frenhinol. Gweler www.niawilliams.com i ddarganfod mwy am waith Nia Williams.