Dewislen
English
Cysylltwch

Gwenno Gwilym

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Gwenno yn awdur a bardd sydd yn mwynhau ‘sgwennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn aml mewn cymysgedd o’r ddau. Mae ei nofel gyntaf, V+Fo (Gwasg y Bwthyn), wedi cael ei brolio am dorri tir newydd oherwydd ei defnydd o’r ddwy iaith, ac fe enillodd wobr Barn y Bobl ynghyd â’r wobr ffuglen yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2025.

Mae ei cherddi wedi cael eu cyhoeddi gan Poetry Wales, Cyhoeddiadau’r Stamp ac Arachne Press, ymhlith eraill. Mae Gwenno yn rhan o garfan Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 25/26 ac yn aelod brwd o’r grŵp ysgrifennu Diosg yn Nyffryn Ogwen.