Ysgrifennu dan fy ffugenw, Amelia Chaffinch, cefais fy ngeni yn Lloegr ond symudais i Gymru pan oeddwn yn blentyn ifanc. Bellach rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn briod ac yn fam i dair o ferched sydd wedi gadael y nyth ac yn nain i nifer o wyrion. Rwy’n treulio fy amser hamdden yn cynhyrchu llyfrau plant, llyfrau nodiadau a chyfnodolion yn y Gymraeg â’r Saesneg, tra hefyd yn ysgrifennu fy nofel gyntaf.
Pan yn plentyn ifanc, pryd bynnag oeddwn yn ddigon ffodus i gael arian poced, byddwn yn rhedeg i’r siop leol lle, yn hytrach na phrynu da-da, byddwn yn sefyll ger y silff lyfrau yn meddwl pa lyfr nodiadau neu bensil i’w brynu. Yna byddwn yn brysio’n ôl adref i roi fy nhrysor newydd gyda’m casgliad cynyddol yn y ddesg ysgol gyda chaead oedd yn codi, a adeiladwyd gan fy nhad i mi – gan freuddwydio am y diwrnod y byddwn yn awdures lwyddiannus. Hyd heddiw, fy hoff adran pan yn ymweld â siop yw’r adran nwyddau ysgrifennu!
Pan nad wyf yn brysur yn ysgrifennu, rwy’n cael ysbrydoliaeth o’r cefn gwlad hardd sy’n amgylchynu fy nghartref. Mae’r lleoliad heddychlon hwn yn tanio fy angerdd dros amrywiaeth o hobïau creadigol, yn enwedig crochenwaith a chreu gemwaith.