Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Milly Jackdaw

Milly Jackdaw

Lleoliad

Canolbarth Cymru

Iaith

E 

Ffurf

FfuglenPerfformio BarddoniaethAdrodd Stori 

Tagiau

Bywgraffiad Cymraeg

Dechreuodd Milly ysgrifennu trwy berfformio, yn y theatr ac fel adroddwr straeon llafar. Mae wedi datblygu sut mae’n mynegi ei hun drwy eiriau drwy greu sgriptiau ar gyfer sioeau, neu drwy berfformiadau digymell (spontaneous) byrfyfyr. Mae hyn wedi rhoi’r cyfle unigryw iddi brofi effeithiau uniongyrchol y geiriau hyn ar wrandawyr, gan ddarganfod pŵer delweddau syml i ysgogi dychymyg a chreu bydoedd. Mae Milly bellach wedi dechrau cyfansoddi darnau hirach i'w darllen neu i wrando arnyn nhw fel recordiadau sain. Mae wedi ysgrifennu barddoniaeth a ysbrydolwyd gan chwedlau Cymru yn ogystal â darnau sy’n ailddehongliad ohonyn nhw. Ymhlith ei gweithiau llenyddol blaenorol mae casgliad o straeon coed, ac mae Milly ar hyn o bryd yn ysgrifennu fersiwn estynedig o’i sioe ddiweddaraf, Mochyn Myrddin/Merlin’s Pig. Mae hyn yn ei galluogi i gynnwys mwy o’r darganfyddiadau diddorol y gwnaeth hi yn ystod ei gwaith ymchwil, yn ogystal ag elfennau o’i dychymyg cyfoethog ei hun. Y bwriad yw i hwn fod yn llyfr ffisegol ac yn llyfr sain. Mae'n bosibl y bydd gweithiau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan chwedlau, straeon gwerin a straeon tylwyth teg, yn ogystal â diddordeb Milly mewn hanes hynafol.