Dewislen
English
Cysylltwch

Sgwennu’n Well

Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 12 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.

Mae  Sgwennu’n Well | Writing Well yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant. Bydd hon yn rhaglen datblygu proffesiynol blwyddyn o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol  eu gyrfa.

Mae’r chwe mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, casglu a chyfathrebu effaith eich gwaith, diogelu grwpiau, codi arian – a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol. Hefyd yn rhan o’r cynllun mae mentora un-i-un; gweithdai a sgyrsiau misol yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a meithrin perthynas ag awduron eraill. 

Yn dilyn y rhaglen hyfforddi chwe-mis gychwynnol, y bwriad yw i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen. 

Ar ôl y rhaglen 12 mis, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gallu derbyn y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu hamcanion.