Siaradwyr: Iola Ynyr a Mari Elen Jones  

Ymunwch â ni ar gyfer ein rhaglen newydd o Sgyrsiau Creadigol, cyfres o chwe digwyddiad byr i ysbrydoli awduron Cymru. Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi. Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.

Mae pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Ein nod gyda phob un o’r Sgyrsiau Creadigol yw adeiladu’r sgiliau a chynyddu’r hyder sydd ei angen i redeg gweithdai cyfranogi sy’n defnyddio gweithgareddau llenyddol i wneud newid cadarnhaol i lesiant cyfranogwyr. Mae’r rhaglen hefyd â’r nod o gyfrannu at adeiladu rhwydwaith gefnogol o awduron yng Nghymru sydd un ai’n gweithio yn y gymuned yn barod neu sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan ddwy artist sy’n gweithio gydag unigolion sy’n byw gyda neu’n cael eu heffeithio gan ddibyniaeth. Bydd Iola Ynyr a Mari Elen Jones yn rhannu myfyrdodau o brosiect ‘Ar y Dibyn’, sy’n canolbwyntio ar hybu hunan-barch a chreadigrwydd y cyfranogwyr; gyda’r uchelgais o gynhyrchu gwaith ysbrydoledig i’w rannu gyda chynulleidfaoedd.

Bydd yr artistiaid yn rhannu awgrymiadau ar ymgysylltu ag unigolion bregus anodd eu cyrraedd, creu awyrgylch diogel i artistiaid a chyfranogwyr, dyfeisio strwythur gweithdy gyda lle i fentro’n greadigol, casglu a chyflwyno gwaith creadigol i gynulleidfaoedd, a chynnal, datblygu, a dychmygu twf prosiectau creadigol cyfranogol.

Mae ‘Ar y Dibyn’ yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai) a’r artist arweiniol Iola Ynyr gyda chefnogaeth Bwrdd Cynllunio Camddefnyddio Sylweddau Ardal Gogledd Cymru. Mae’r prosiect hwn yn bosibl drwy gefnogaeth rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil Pobl (HARP), a gyllidir gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta)

Bydd dim mwy nag 20 o gyfranogwyr yn gallu mynychu pob cwrs blasu; bydd y cyrsiau am ddim ac yn cael eu cyflwyno dros blatfform fideo Zoom.

Bydd y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd isdeitlau byw hefyd. Byddwn yn anfon dolen i chi i’r sesiwn Zoom yn yr ebost cadarnhau a 24 awr cyn y digwyddiad.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Am unrhyw fanylion pellach am y digwyddiad, cysylltwch â  mared@llenyddiaethcymru.org

Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru.