Dewislen
English
Cysylltwch

 

Derbyniodd Taylor Edmonds, awdur a pherfformwraig, radd Anrhydedd mewn MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar. Mae hi’n gweld ysgrifennu fel ffordd o fynegi ei hun ac fel ffordd o ymgysylltu ac eraill. Mae hi’n aelod o dîm cyfres meic agored Where I’m Coming From, sydd wedi ei anelu’n bennaf, ond nid yn gyfyngedig i, artistiaid ac awduron BAME yng Nghymru. Mae hi’n angerddol dros sicrhau bod barddoniaeth ar gael i bawb, yn enwedig rhai o’r rheiny sydd o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli. Mae ei chyhoeddiadau wedi ymddangos ar amrywiol blatfformau megis BBC Cymru Sesh, Wales Arts ReviewButcher’s Dog Magazine, antholeg Cheval, a’r The Cardiff Review, ac yn ddiweddar fe gafodd Taylor y cyfle i weithio ar briosiectau gyda’r Nescio Ensemble, Cyngor Celfyddydau Cymru a The Severn Estuary Partnership. Caiff straeon Taylor eu haddrodd trwy ddelweddau cryf a thrwy rhythmau, ac fe greda’r beirniaid bod ganddi ‘ddealltwriaeth wych o stori ac o luniau’.