Dewislen
English
Cysylltwch

ARLEIN

Mawrth 15 hyd at Fai 5, ac ar Fai 14 – Dwlu ar y Geiriau, DiscoverDylanThomas.com
Bydd Hannah Ellis, wyres Dylan, yn cyd-redeg y gystadleuaeth hon oddi ar ei gwefan Discover Dylan Thomas mewn partneriaeth â Diwrnod Dylan. Crëwch eich cerdd eich hun drwy ‘dorri’ geiriau Dylan Thomas; tynnu ffotograff o’ch gwaith; ac yna ei rannu ar Twitter. Defnyddiwch yr hashnodau #DyddDylan a #LovetheWords i ychwanegu eich cerdd a darllen llawer o rai eraill! Mae’r gystadleuaeth yn agored i bobl ifanc rhwng 7 a 25 oed, ac yn agored o ganol mis Mawrth tan 5 Mai. Gallwch ymuno yn yr hwyl ar ôl hynny ond ar 5 Mai bydd Hannah yn dechrau dewis ei hoff gerddi ac yn dangos y rhain mewn oriel bwrpasol ar ei gwefan ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, sef 14 Mai. Darllenwch ragor yn www.discoverdylanthomas.com

14 Mai – DylanED – ‘How Dylan Inspires Me’, Prifysgol Abertawe
Gwahoddir plant ysgolion cynradd rhwng 8 ac 11 oed drwy eu hysgolion i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. Gall y ceisiadau gynnwys lluniau, cerddi, storïau byrion, modelau – unrhyw beth a ysbrydolwyd yn greadigol gan Dylan Thomas! Bydd y ddelwedd fuddugol yn ymddangos ar dudalen gartref Prifysgol Abertawe ar Ddiwrnod Dylan, a bydd yr enillydd yn cael pentwr o wobrau gan gynnwys llyfrau i lyfrgell eu hysgol. Bydd yr holl ddelweddau’n ymddangos mewn arddangosfa ar-lein i ddathlu Diwrnod Dylan.  Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan! DylanED yw’r agwedd addysgiadol ar Wobr Ryngwladol Dylan Thomas.  Nid oes terfynau ar greadigrwydd na’r dychymyg. Mae DylanED yn cyflwyno pobl ifanc i fyd llên ac yn eu hannog i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain.

 

ABERTAWE

10 Mai – Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe – Seremoni Wobrwyo a Derbyniad 2017, 7pm
Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn un o’r gwobrau llenyddol mwyaf mawreddog i awduron ifanc. Mae’r cyn-enillwyr yn cynnwys: Rachel Tresize, Lucy Caldwell, Maggie Shipstead a Joshua Ferris. Aeth Max Porter, a enillodd y wobr yn 2017 ac sydd wedi cael canmoliaeth ryngwladol, yn ei flaen i ennill Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times a Gwobr Darllenwyr Books Are My Bag am ei lyfr cyntaf hynod Grief is the Thing with Feathers, sy’n cael ei gyfieithu i 25 o ieithoedd.
Gwahoddir chi i rannu’r foment gyda Phrifysgol Abertawe a’r awduron sydd ar y rhestr fer.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys: cyhoeddi enw enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2017 ar gyfer llenorion cyhoeddedig sy’n 39 mlwydd oed neu’n iau, a darlleniadau byw gan yr awduron sydd ar y rhestr fer.
Bydd modd prynu copïau o’r llyfr buddugol a’r llyfrau’r rhestr fer yn y digwyddiad, a hynny gan y llyfrwerthwr annibynnol ‘Cover to Cover’.
Pa awdur fydd yn ennill y Wobr anrhydeddus o £30,000?
Tocynnau: £8.00 (gostyngiadau £6.00). Mae pris y tocyn yn cynnwys gwydraid o win a canapés yn y derbyniad, a mynediad i’r seremoni wobrwyo. Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe (Campws y Bae), Abertawe SA1 8EN.
Archebwch eich tocynnau ar-lein yn www.taliesinartscentre.co.uk
Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau’r Neuadd Fawr 01792 604900 / 604999.
Gellir casglu’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad naill ai yn y Neuadd Fawr neu yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin cyn diwrnod y perfformiad, neu yn y Neuadd Fawr ar ddiwrnod y digwyddiad. www.swansea.ac.uk/cy/gwobrryngwladoldylanthomas/

12 Mai – Cyfnewid Negeseuon Trydar Dan y Wenallt #6, Canolfan Dylan Thomas
Am y chweched flwyddyn rydym yn dathlu pen-blwydd perfformiad llwyfan cyntaf Dan y Wenallt drwy gyflwyno sgyrsiau gan breswylwyr Llareggub drwy Twitter. Ymunwch â @CDTAbertawe wrth i ddarnau o ddrama i leisiau Dylan cael eu trydar drwy gydol y dydd.

13 Mai – ‘Love the Words’ arddangosfa, Canolfan Dylan Thomas
Am ddim.

13 Mai – 22 Rhagfyr, ‘I might want to smile’ Arddangosfa Dros Dro, Canolfan Dylan Thomas
Mae gwaith Dylan Thomas yn llawn hiwmor o’i gerddi cynnar yn Ysgol Ramadeg Abertawe i’w ryddiaith ddiweddarach, megis ‘A Story’. Mae ei dwdlau a’i luniadau hefyd yn dangos ei bersonoliaeth hwyliog. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys deunydd ar fenthyg o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ynghyd ag eitemau o’n casgliad ein hunain. Rydym hefyd yn arddangos am y tro cyntaf barodi o Under Milk Wood a ysgrifennwyd gan Keith Waterhouse a Willis Hall ar gyfer rhaglen  ‘That Was the Week That Was’ y BBC

13 Mai – Sgwad ‘Sgwennu Ifanc, Canolfan Dylan Thomas
Mae’r bardd a’r perfformiwr arobryn, Jonathan Edwards, yn arwain gweithdy gyda’n Sgwad ‘Sgwennu Ifanc. Cysylltwch â’r Ganolfan am fwy o fanylion am y Sgwad.

13 Mai – ‘Dwlu ar y Geiriau’: Taith Dywys, Canolfan Dylan Thomas
Ymunwch â’n Swyddog Llenyddiaeth am daith dywys fanwl o Arddangosfa Dylan Thomas a’n harddangosfa dros dro bresennol o lawysgrifau a darluniau.
Cofiwch gadw lle ymlaen llaw
Pris Llawn £5; Consesiynau £3.50; PTL Abertawe £1.60

13 Mai – Gweithdy galw heibio ‘I might want to smile’ i deuluoedd, Canolfan Dylan Thomas
Wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfa newydd ‘I might want to smile, byddwn yn creu straeon doniol drwy amrywiaeth o weithgareddau gwahanol, o greu straeon comig i ddylunio cymeriadau doniol gyda’n crëwr cymeriadau creadigol. Ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 12 oed ond mae croeso i bobl o bob oed. Galwch heibio, am ddim.

13 Mai – ‘As I was young and easy’Eglwys St James, Abertawe, 7.00 pm
Bydd Cymdeithas Dylan Thomas, Cartref Genedigol Dylan Thomas, a Chôr Meibion Dyfnant yn perfformio ‘as I was young and easy’ – sef taith drwy fywyd Dylan mewn geiriau ac ar gân – yn Eglwys St James, Uplands, Abertawe o 7.00 pm ymlaen. Tocynnau’n £8. Ewch i www.dylanthomasbirthplace.com i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â’r Cartref Genedigol ar 01792 472555 neu yn info@dylanthomasbirthplace.com

14 Mai – Gweithgareddau Galw Heibio Diwrnod Dylan, 10.00 am – 4.00 pm
Bydd ein Man Dysgu sy’n addas i deuluoedd ar agor ar gyfer chwarae hunanarweiniedig am ddim. Mae gweithgareddau’n cynnwys ysgrifennu creadigol, creu comig bach, pypedau, gemau, cornel ddarllen, crefftau a dillad gwisgo lan, gyda’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan Dylan Thomas. Yn wych i deuluoedd gyda phlant o bob oedran. Galw heibio, am ddim.

14 Mai – Return Journey, Abertawe, 10.30 am
Mae’r perfformiad enwog gan gwmni theatr y Lighthouse o Return Journey Dylan Thomas ar strydoedd Abertawe yn ‘dychwelyd’ un waith eto ar gyfer Diwrnod Dylan. Mae’r ddwywawr o sioe yn dechrau ar Sgwâr y Castell ac yn dod i ben ym Mharc Cwmdoncyn, ac mae’n edrych ar y dref hyfryd a hyll drwy lygaid ac atgofion Dylan. Cafodd ei datblygu ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Ers hynny datblygwyd ‘ap’, ac roedd yn un o’r dair prif sioe yr ŵyl yn ôl BBC Arts Review of the Year 2014.
‘one of the most innovative shows of this year’s festival’ – The Daily Telegraph
10.30 am yn Sgwâr y Castell gan gerdded i Cwmdonkin Drive (bydd lleoliad addas ar gael os bydd hi’n dywydd gwlyb). Gorffen erbyn 12.15 pm.
Tocynnau: £5, ffoniwch: 0780 141 8135 neu anfonwch neges e-bost i lighthousetheatreltd@gmail.com

14 Mai – ‘Cyfieithu Dylan’, Cartref Genedigol Dylan Thomas, 2pm
Gwahoddir chi gan Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe i ymuno â nhw i ‘Gyfieithu Dylan’ yng nghartref genedigol Dylan Thomas, sef 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe. Ymunwch â nhw am 2.00 pm ar Ddydd Dylan i glywed sut y mae un o gerddi mwyaf Dylan yn mynd ar daith drwy’r Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a’r Gymraeg a mwy. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim; croeso i bawb.

14 MaiDo Not Go Gentle ar y cyd â Dylan’s Mobile Bookstore – Cinema & Co, 7.00pm
Eleni, mae DO NOT GO GENTLE, fel rhan o Ddathliad Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn Abertawe, yn mynd fymryn oddi ar y trywydd ac yn dathlu bardd mawr arall, sef Allen Ginsberg, yn enwedig WALES VISITATION – y gerdd fawr a ysgrifennodd yng Nghymru 50 mlynedd yn ôl dan ddylanwad LSD. Ond roedd dylanwad Dylan Thomas ar Ginsberg, a chawsant gyfarfod byr ond cofiadwy yn Ninas Efrog Newydd yn 1952.
Byddant yn: dangos ffilm Iain Sinclair ar Ginsberg yn Llundain yn 1967 – Ah Sunflower; Lansio llyfr newydd gyda pharch i Dylan ~ 18 Poems gan y bachan o Bolton, Oliver James Lomax; Adloniant ar ffurf y gair llafar swnllyd gan y fenter gydweithredol o Abertawe Poets On The Hill; clywed am gyfarfyddiad Allen a Dylan, a gwrando ar Wales Visitation gyda Jeff Towns a’r actor Ceri Murphy; ac i gloi, mwynhau’r triawd ‘bluesabilly o Gaerdydd, The Irascibles.
Tocynnau’n £5 ar y drws. Cinema & Co, Abertawe, 7.00 pm
Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

14 MaiLansio a Darllen Llyfr, Man Geni Dylan Thomas, 1.00 pm
Bydd y bardd Hamish Wilson yn darllen o’i gasgliad darluniadol newydd, Away from the Welsh Speaking Sea – dilyniant yn seiliedig ar daith o amgylch Man Geni Dylan Thomas gyda soned ar gyfer pob ystafell, yn cynnwys y tŷ bach. Bydd copïau wedi’u llofnodi o’r llyfr, gan y bardd a’r artist, Bill Bytheway, ar werth wedyn. Am ddim.

 

TALACHARN

13 ac 14 MaiUnder Milk Wood: Paentiadau a Phypedau, The Tin Shed
Arddangosfa o baentiadau o gymeriadau o Under Milk Wood gan yr artist a’r gŵr sydd wrth y llyw yn y Tin Shed, Seimon Pugh-Jones, ynghyd â phypedau gan yr artist Annie Hardy.
Mae’r Tin Shed ar agor rhwng 10.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn, a rhwng 1.30 pm a 4.30 pm ar ddydd Sul. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.tinshedexperience.co.uk.

14 Mai – Cartref Dylan Thomas a’r Ystafell De
Bydd y Boathouse yn dangos y ffilm Do not go mental gan Brendan Pendry ar wahanol adegau yn ystod y dydd. www.dylanthomasboathouse.com / www.discoverdylanthomas.com/portfolio-items/film-screenings-dylan-thomas-boathouse-laugharne

 

GLANFFERI (FERRYSIDE), EFROG NEWYDD, TRANÅS, IWERDDON A PORTIWGAL

14 MaiDarllen Barddoniaeth Fyw yn Rhyngwladol, The White Lion, 3.00pm
Yn dilyn llwyddiant y dolenni byw y llynedd rhwng Efrog Newydd, Stockholm a Chymru i ddathlu Diwrnod Dylan, bydd y White Lion yn Ferryside unwaith eto yn ganolbwynt technegol ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol rhwng America, Sweden, Portiwgal ac Iwerddon a lleoliadau yng Nghymru sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas.
Mae’r White Lion ym mhentref pysgota bach Glanfferi ac mae’n un o’r tafarnau niferus sy’n edrych dros aber Tywi sy’n rhan bwysig o hanes personol Thomas.  Mae’r sefydliad llenyddol write4word o Orllewin Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, yn gyfrifol am gyfres o ddigwyddiadau llenyddol a fydd yn denu awduron o Gymru, Ewrop ac America i ddathlu bywyd a gwaith un o awduron iaith Saesneg gorau Cymru.
Bydd aelodau o Gymdeithas Piraten yn cynnal digwyddiad cysylltiedig yn Tranås, Sweden a’u nod ar Ddiwrnod Dylan yw cyhoeddi ar eu gwefan fersiwn Saesneg o erthygl gan y bardd Dominic Williams o Lanfferi ynghylch Dylan Thomas a’r awdur Nils Fritiof Piraten o Sweden.
Mae’r gymuned lenyddol leol yng Nglanfferi yn gobeithio defnyddio Diwrnod Dylan fel modd i sbarduno eu huchelgais o ailgyhoeddi llyfr Beryl Hughes, The Cats Whiskers sy’n ymwneud â dylanwad cymeriadau lleol yn eu pentref ar Dan y Wenallt (Under Milk Wood), a hynny drwy gwmni cyhoeddi Iconau Books yng Nglanfferi.
Bydd yr awduron o Efrog Newydd fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn ymweld â Chymru yn ddiweddarach yn y mis fel cyfranogwyr yn Ysgol Haf Dylan Thomas a gaiff ei rhedeg yn Llanbedr Pont Steffan gan yr Ysgol Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Digwyddiad am ddim. Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru.

 

CEINEWYDD

14 MaiCraft your Characters in the Crow’s Nest, 2.00pm-4.00pm
Bydd Samantha Wynne-Rhydderch yn arwain gweithdy cerdded yn cynnwys taith 20 munud a fydd yn stopio bum gwaith ar lwybr Dylan Thomas yng Ngheinewydd. Bydd awgrym ysgrifennu ar bob stop yn ymwneud â gwahanol gymeriad o Dan y Wenallt.  Yna bydd pawb sy’n cymryd rhan yn mynd i’r ‘Crow’s Nest’ (uwchben y Clwb Hwylio ar Bier Ceinewydd) i archwilio’r broses o greu cymeriad mewn barddoniaeth/ffuglen fflach. Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda pherfformiad 10 munud ar falconi’r Crow’s Nest lle bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu gwahodd i berfformio eu cymeriad gerbron criw o ymwelwyr ac unrhyw ddolffiniaid sydd wedi ymgasglu.  Dim ond 8 person fydd yn gallu mynd i’r digwyddiad er mwyn i bob un sy’n cymryd rhan allu cael lefel uchel o adborth ar ei waith.
Samantha Wynne-Rhydderch: sam@rhydderch.com

 

WRECSAM

14 Mai – Darlleniadau Barddoniaeth a Gweithdy Galw Heibio gydag Awdur Ieuenctid Cymru a Bardd Cenedlaethol Cymru, Castell y Waun, 11.30am-1.30pm
Ymunwch ag Awdur Ieuenctid Cymru, Sophie Mckeand, mewn gweithdy ysgrifennu lle gall pawb o bob oed alw heibio rhwng 11.30 am – 12.30 pm. Yna, am 12.45 pm, bydd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn ymuno â Sophie ar gyfer darlleniad unigryw o’u cerddi yng nghapel godidog y castell.
Dechreuwyd adeiladu Castell y Waun, sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn 1295, ac roedd yn un o nifer o gaerau’r Gororau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr i gadw’r Cymry dan reolaeth y Saeson. Yn 1910, ymserchodd Thomas Scott-Ellis, 8fed Arglwydd Howard de Walden, yng Nghastell y Waun, a negodi prydles gyda’r Teulu Myddleton, a pharhaodd hyn hyd at 1946. Daeth Tommy yn noddwr i Dylan. Ar Noswyl Nadolig 1940, ac yntau’n ddigartref heb yr un geiniog, ysgrifennodd Dylan lythyr teimladwy tuag ato yn ceisio rhagor o gymorth ac yn amgáu chwe cherdd ddiweddar o’i eiddo.  Talodd Tommy ei ddyledion a gadael iddo gael yr Apple House, sef bwthyn carreg yn yr ardd ym Mhlas Llanina, Ceinewydd.
Mae Castell y Waun ar gael saith niwrnod yr wythnos, rhwng 12.00 pm a 5.00 pm, tan 1 Tachwedd: www.nationaltrust.org.uk/chirk-castle. Tâl mynediad – Oedolion £12.20 / plant £6.10 / plant dan 5 oed ac aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: am ddim. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynnwys yn y tâl mynediad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â intdylanthomasday@gmail.com
Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

 

PONTYPRIDD

 

17 Mai – Ysgrifennu Rhydd, Llyfrgell Pontypridd
Ymunwch ag awduron lleol ar gyfer sesiwn ysgrifennu arbennig ar thema Dylan. Croeso i awduron mewn unrhyw ffurf a gydag unrhyw brofiad. Cofiwch ddod â phapur a beiro gyda chi. Cynhelir gan y bardd Mab Jones. Am ddim.

17 Mai – Y Salon, Clwb y Bont, 7.30pm
Noson meic agored i bob steil o berfformiadau creadigol, o farddoniaeth i adrodd straeon a cherddoriaeth, canu, syrcas ac unrhyw beth arall. Digwyddiad thema arbennig ac mae’r sesiwn hwn yn gofyn i chi ddod â rhywbeth sydd wedi’i ysbrydoli gan Dylan, ei waith neu ei themâu. Yr arweinydd fydd Cara Cullen.

 

RHYDYCHEN

14 MaiTaith Gerdded Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, Datgloi Castell Rhydychen, 2.00pm – 4.00pm
Taith gerdded Gymreig, dwy awr, yng nghanol Rhydychen i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas (sydd ar 14 Mai). Bydd y daith hefyd yn cyfeirio at enwogion ‘meibion Cambria’ megis Gruffudd ap Arthur o Fynwy, Gerallt Gymro, Beau Nash, T.E. Lawrence ac amryw o Jonesys! £12 www.oxfordcastleunlocked.co.uk/events/event/international-dylan-thomas-day-oxford-walk/. Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru.

 

LLUNDAIN

9 MayDathliad rhestr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfrgell Prydeinig, 7.00 pm
Pleser yw cyhoeddi y bydd awduron 2017 a roddwyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe yn perfformio yn y Llyfrgell Brydeinig. Bydd y digwyddiad mawreddog hwn ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnwys darlleniadau byw gan yr awduron a sesiwn holi ac ateb gyda’r cyhoedd. Tocynnau: £8. www.bl.uk/events

14 Mai – Taith Lenyddol Tafarndai Llundain, Fitzrovia, 5.00 pm
Dilynwch ôl troed Dylan yn Fitzrovia ar Daith Tafarndai Dydd Dylan, yn dechrau am 5.00 pm. Cyfle i ymweld â thafarndai yng nghalon lenyddol Llundain a ble’r oedd Dylan Thomas a’i gyfoeswyr George Orwell, Anthony Burgess, Brendan Behan a T.S Eliot, yn ymwelwyr aml. Dyma ble’r oedd cewri’r byd llenyddol yn bwyta, yfed, trafod, meddwl ac yn gweithio. Cewch hefyd y cyfle i ail-fyw’r moment ble gwrdd Dylan a Catlin yn Nhafarn y Wheatsheaf. Mae’r daith unigryw hon wedi ei threfnu gan elusen The Maverick Theatre Company, a caiff ei harwain gan artistiaid. Bydd y daith yn cynnwys lleoliadau pwysig yn hanes llenyddol Llundain a lleoliadau cyfoes hefyd, yn ogystal ag elfennau pwysig o fywydau ein hawduron. Tocynnau arferol yn £24.00. Pris arbennig Dydd Dylan £12.00. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymruhttps://londonliterarypubcrawl.com/dylan-thomas-day.php

14 Mai – Wales Bird: Aderyn Rhiannon, Tafarn yr Half Moon, Herne Hill, Llundain, 1.00 pm
Perfformiad o ‘Wales Bird: Aderyn Rhiannon’. ‘Mae Dylan Thomas yn camu mewn i glwb jazz ac yn gadael Talwrn Hip Hop.’  Gyda Daniel  G. Williams, Anerin Karadog, Martin Daws, Mr Phormula, Huw V. Williams, Zaru Jonson. Am ddim. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

14 MaiGwobrau Saboteur, Vout-O-Reenee’s, 6.00pm-11.00pm
Dyma 7fed flwyddyn Gwobrau Saboteur, i ddathlu’r gorau o lenyddiaeth ‘indie’. Mae’r noson wobrwyo’n cynnwys y canlyniadau, perfformiadau sy’n arbennig i’r safle, a chyfle i brynu’r gweithiau sydd ar y rhestr fer. Caiff Gwobr yr Wildcard ei noddi eleni gan Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, gyda gwobrau arbennig ar thema Dylan Thomas a thystysgrif i’r enillydd. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.
£12 / £7 gostyngiadau. Vout-O-Reenee’s, 30 Prescot Street, Llundain, E1 8BB
Archebwch eich tocynnau yma: www.eventbrite.co.uk/e/saboteur-awards-2017-tickets-32024835144

14 Mai – Lansio Discovering Dylan Thomas: A Companion to the Collected Poems and Notebook Poems gan John Goodby ac Ugly, Lovely gan Hilly James, The Wheatsheaf, 5.30 pm – 7.30 pm
Bydd John Goodby yn lansio ei lyfr newydd gan Wasg Prifysgol Cymru yn The Wheatsheef, a bydd Hilly James yn ymuno i lansio ‘Ugly, Lovely’ (Parthian). Mae llyfr Goodby yn cynnwys ymddangosiad cyntaf deunydd o bumed llyfr nodiadau Dylan a ddarganfuwyd yn 2014. Felly, mae’n cynnwys deunyddiau nad welwyd erioed o’r blaen – nid cerddi newydd fel y cyfryw, ond penillion cyfan a llinellau wedi’u torri o gerddi cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae hefyd yn cynnwys deunydd o archifau o lyfrgelloedd nad oeddem yn ymwybodol ohonynt. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â j.goodby@swansea.ac.uk. Mynediad am ddim. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

14 Mai – Lansio Wales Bird : Aderyn Rhiannon, Dylan Thomas in the American Century (Llyfr, Cryno-ddisg a Lawrlwythiad), Canolfan Cymry Llundain, 7.30pm
Math newydd o Adloniant Addysgol, lle mae’r Ddarlithfa’n cwrdd â’r Clwb Jazz ac yn troi’n Seiffr Hip Hop. Gyda chast o Wrthddiwyllianwyr enwog Cymru: awdurdod blaenllaw ar waith a gwaddol Dylan Thomas, yr Athro Daniel G. Williams; y beirdd Aneirin Karadog (Prifardd Eisteddfod 2016), Martin Daws (Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16) a Zaru Jonson (Ail am Wobr John Tripp); gyda cherddoriaeth gan y Chwaraewr Bas Dwbl Huw V. Williams (Enillydd Gwobr Yamaha) a Seren UK Beatbox Mr Phormula. Gwaith Celf Gwreiddiol gan Ewan Jones Morris.
Tocynnau’n £8 oddi ar  www.cymryllundain.org.uk; Canolfan Cymry Llundain, Grays Inn Rd, Llundain WC1X 8UE. Rhagor o wybodaeth ar gael gan Martin Daws: 07891265842 / md@martindaws.com
#WalesBird #AderynRhiannon. Cefnogir gan Lenyddiaeth Cymru.

14 MaiGuy Masterson – Under Milk Wood, The Wheatsheaf, 2.00 – 4.00 pm
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, dewch i glywed campwaith Dylan Thomas yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gwbl newydd gan Guy Masterson – “un o ddehonglwyr gorau’r byd ar weithiau Dylan”. Gyda chymorth seinwedd aruchel gan Matt Clifford, cyfansoddwr sydd wedi cydweithredu â’r Rolling Stones, mae Masterson yn troi campwaith hudolus Dylan yn gân. Yn awyrgylch glos The Room Upstairs yn The Wheatsheaf, bydd hwn yn berfformiad byw cwbl wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i glywed erioed o’r blaen! Dim ond lle i 50 o bobl sydd yn yr ystafell felly archebwch yn gynnar! £15 + ffi archebu. Tocynnau ar gael yma.

 

CAERDYDD

13 MaiTanio’r Dychymyg, Chapter 2.00 – 4.00pm
Taniwch eich dychymyg mewn gweithdy ysgrifennu creadigol unigryw sy’n dechrau gyda, ‘The force that through the green fuse drives the flower…’ ac yn defnyddio cerddi eraill Dylan Thomas a stori i ysbrydoli pobl i ysgrifennu mewn ymateb i lawnder bywyd ac iaith yn unol ag ysbryd ‘oes werdd’ Dylan a’ch ‘oes werdd’ eich hun. £8.00 / £6.00 gostyngiadau. I archebu lle, anfonwch neges at Amanda Rackstraw, fydd yn cynnal y gweithdy. Mae llefydd yn brin. amrackstraw@gmail.com

14 Mai The Hold Up, Gwdihw, 6.00pm-12.00am
Darlleniadau a pherfformiadau gan nifer o feirdd, awduron caneuon a rapwyr/arweinwyr prysur sydd i gyd, mewn rhyw ffordd, wedi cael eu dylanwadu gan Dylan Thomas. Gyda Ruffstylz, Rufus Mufasa, Turna Phrase, Chew, Pete AK, Nicodemus Reuben, Pun-Ra.

14 MaiCelf Graffiti Byw, o amgylch Castell Caerdydd, 11.00 am ymlaen
Bydd nifer o artistiaid graffiti yn paentio byrddau o amgylch Castell Caerdydd a mynedfa Parc Biwt. Bydd Rufus Mufasa (Dope Biscuits) yn dewis rhai o eiriau Dylan Thomas er mwyn eu cynnwys yn y gwaith celf. Mae gan graffiti a hip-hop bresenoldeb cryf yng Nghaerdydd, a bydd y gwaith celf yn deyrnged i Dylan Thomas a’i ddylanwad, ac yn gydnabyddiaeth y cyfraniad pwysig rapwyr i ddiwylliant Cymru.
Mae Parciau Cyngor Caerdydd a’r holl artistiaid yn gobeithio y bydd eu gwaith yn cael derbyniad cadarnhaol gan yr amrywiol bobl sy’n defnyddio’r parc.
Digwyddiad rhad ac am ddim

15 MaiJUKE, Owain Glyndwr, 7.00pm
Mae JUKE yn noson meic agored i lenorion yng Nghaerdydd. Canolbwyntir ar berfformiadau arbrofol ac arloesol. Ar y noson arbennig hon, cyflwynir y bardd disglair, Dylan Thomas, fel rhan o ŵyl Diwrnod Dylan. Gallwch berfformio ei ddarnau gwreiddiol ef neu eich gwaith chi eich hun wedi’i ysbrydoli gan y bardd o Gymru. Dan arweiniad Renn Hubbuck-Melly.

 

PENARTH

12 MaiTechnegau Hunan-gymorth i Osgoi Trafferthion Ysgrifennu a Rhyddhau Creadigrwydd, Pafiliwn Pier Penarth, 1.00 – 3.00 pm
Gweithdy ar Gerddi Iachau a Chinesioleg yw hwn, wedi’i gynnal gan y therapydd a’r awdur Frances Smith KFRP a’i ddatblygu ar gyfer artistiaid ac awduron
Pris arbennig ar gyfer #DyddDylan £8.00 / gostyngiadau £6.00
A fyddech cystal â chadarnhau eich lle drwy e-bostio fsmith77@aol.com
Neu ffonio/tecstio 07920 714 527

 

CAERFYRDDIN

12 MaiRhannu barddoniaeth Diwrnod Dylan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, 1.00pm-2.00pm
Bydd staff a myfyrwyr yn rhannu eu hoff gerddi i ddathlu Diwrnod Dylan ar 12 Mai, 1pm-2pm, Cyntedd y Capel, Hen Goleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP
Ar agor i’r cyhoedd.

 

PWLL GLO SIX BELLS

14 MaiTaith y Gwarchodwr, Canolfan Dreftadaeth Tŷ Ebbw Fach, 11.30 am
Cyfarfod yn y Ganolfan Dreftadaeth ar gyfer taith a sgwrs hanesyddol i Gofgolofn ysbrydoledig y Glöwyr, y Gwarchodwr. Bydd amser i’w dreulio yn y Ganolfan Dreftadaeth i nodi eich teimladau a’ch adwaith i’r cerflun emosiynol hwn. Arwynebau tarmac yn bennaf o dan draed a dylai’r daith bara ryw awr. Te a choffi ar gael wedyn. Dim ffi, ond gofynnir am rodd i Six Bells Regeneration Ltd. Mae SBR yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Dreftadaeth ac mae’n cefnogi grwpiau a digwyddiadau lleol. Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu gysylltu â Meg Gurney ar 01495 753629 neu anfon e-bost i mrsm.gurney@gmail.com i gofrestru eu diddordeb.

 

ABERYSTWYTH

14 Mai – Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Arddangosfa o eitemau Dan y Wenallt o gasgliadau llawysgrifau, gweledol a print y llyfrgell. www.llgc.org.uk/cy/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2016/dathlu-diwrnod-rhyngwladol-dylan-thomas-yn-llyfrgell-genedlaethol-cymru/ 

 

SUFFOLK

15 Mai – Singing In My Chains, Woodbridge, 7.30pm
Dathliad o gerddi a rhyddiaith Dylan Thomas yn cael eu perfformio gan y bardd o Abertawe, Ian Griffiths. Seckford Theatre, Woodbridge School, Woodbridge, Suffolk IP12 4JH.
Tocynnau’n £5 (Myfyrwyr: am ddim). www.ticketsource.co.uk/seckfordtheatre

 

CERNYW

13 MaiDylan Thomas in Cornwall, Grampound
Am gyfnod o ddwy flynedd, bu Dylan Thomas yn ymwelydd cyson â Chernyw a phrin yw’r wybodaeth am yr hyn a lenwai amser yr egin-fardd, heblaw ei fod, yng Ngorffennaf 1937, wedi dod â’r ferch a garai i Penzance lle bu iddynt briodi.
Ond newidiodd pethau yn 2015, pan wnaeth y gwneuthurwr theatr, Jak Stringer, ddarganfod bywgraffiad nad oedd wedi cael ei gyhoeddi. Wedi’u hysbrydoli gan yr atgofion hyn, a storïau newyddion lleol o’r cyfnod, mae Jak a Linda Camidge wedi creu sioe sy’n rhoi cip rhyfeddol ar flynyddoedd cynnar y bardd a ddaeth yn fyd-enwog ac ar fywyd yng Nghernyw cyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae Dylan Thomas in Cornwall yn cyfuno perfformiad byw a chyfoes, cerddoriaeth wreiddiol a ffilm er mwyn creu sioe sy’n ddifyr, yn ddoniol ac yn addysgiadol.
Tocynnau ymlaen llaw: Oedolion: £8. Digyflog/Ar fudd-daliadau: £7. Plentyn: £5.
Grampound Community Hall, Grampound, TR2 4SB
www.crbo.co.uk/eventDetail.php?evGrp=5&evId=13784

14 MaiHistory through the Looking Glass yn cyflwyno dau ddigwyddiad yn rhad am ddim yng Nghernyw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas

14 Mai – Dylan Thomas in Cornwall Performance Walk, Penzance, 2.00pm
Cwrdd yng ngwesty’r Longboat, 55 Market Jew Street, Penzance TR18 2HZ
Am gyfnod o ddwy flynedd, bu’r bardd Dylan Thomas yn ymwelydd cyson â Chernyw a phrin yw’r wybodaeth am yr hyn a lenwai amser yr egin-fardd, heblaw ei fod, yng Ngorffennaf 1937, wedi dod â’r ferch a garai i Penzance lle bu iddynt briodi.
Ond newidiodd pethau yn 2015, pan wnaeth y gwneuthurwr theatr, Jak Stringer, ddarganfod bywgraffiad nad oedd wedi cael ei gyhoeddi. Mae gohebydd dibrofiad ar bapur newydd y Cornishman, o’r enw Joe Martin, yn dod yn gyfaill i Dylan Thomas yn 1936 ac yn cofnodi anturiaethau’r ddau ŵr ifanc tra oeddent yn ffrindiau.
Wedi’u hysbrydoli gan yr atgofion hyn, a storïau newyddion lleol o’r cyfnod, mae Jak Stringer a Linda Camidge wedi creu perfformiad hanes ar gerdded o gwmpas Penzance, a fydd yn rhoi cip rhyfeddol ar flynyddoedd cynnar y bardd a ddaeth yn fyd-enwog ac ar fywyd yng Nghernyw cyn yr Ail Ryfel Byd.
Felly da chi, dewch gyda Joe Martin a’i gyd-ohebydd Trevor i’r tafarnau lle buont yn yfed, i glywed prif storïau newyddion y cyfnod ynghyd â’r anturiaethau a gawsant gyda Dylan Thomas.
“Rwy’n ffan enfawr i Dylan, ond wyddwn i ddim byd am hyn!”
Bydd y daith gerdded yn para 90 munud.
Rhif Cyswllt: 07814614764  dolen Facebook: www.facebook.com/dylanthomasincornwall

14 MaiDylan Thomas Sunday Speakeasy, Penzance, 4.00pm-7.00pm
Dyma ddigwyddiad meic agored ar gyfer artistiaid, beirdd ac awduron i greu darn pum munud wedi’i ysbrydoli gan fywyd a gwaith Dylan Thomas. Dewch i berfformio neu ymlacio a gwrando ar waith pobl eraill, wrth godi gwydr i’r dyn mawr.
Dewch ag eitem sydd, yn eich barn chi, yn cynrychioli Dylan Thomas i’w arddangos ar y bwrdd.
Dyma ddigwyddiad cymunedol i’r bobl, gan y bobl, ac mae croeso i bawb.
Bath Inn Function Room, Cornwall Terrace, Penzance, TR18 4HL
Gwybodaeth: Jak Stringer 07814614764

 

WALSALL

14 MaiPoets and Painters, Lleoliad ac Amser i’w cadarnhau
Bydd Walsall yn cyfrannu at Ddiwrnod Dylan drwy groesawu criw bychan o feirdd a phaentwyr. Bydd yno daflenni a phosteri am Dylan, a her ar eu tudalen Facebook yn galw am weithiau ar Dylan a/neu ddiwylliant Cymru.
Bydd yno gynfas mawr yn gwahodd artistiaid i gydweithio ar y diwrnod ac i’w arddangos yn un o’r gofodau yn yr oriel agored a gynhelir gan Direct Art Action.

 

EFROG NEWYDD

14 MaiUnder Milk Wood On Demand, 92Y Poetry Center, ar gais
Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, bydd y perfformiad o Under Milk Wood yn cynnwys Michael Sheen ac wedi’i gyfarwyddo ganddo, a recordiwyd ar lwyfan 92Y lle y cymerodd Dylan ei hun ran yn y perfformiad cast cyntaf o’i ddrama i leisiau yn 1953, ar gael ar gais i wrando arno ar 14 Mai. Manteisiwch ar y cyfle prin hwn i glywed y recordiad unigryw hwn o ddathliadau canmlwyddiant Dylan yn 2014.

14 Mai – Sunken Hundred, Efrog Newydd
Siaradwyr gwadd a perfformwyr: Matthew Rhys – actor (Americans, Brothers and Sisters); Anne a Mike Trew – actorion; Chloe Wilson – cantores; Hywel John – Dramodydd/actor
Noddwyd yn garedig gan Llywodraeth Cymru yn America. Archebion yn unig. Sunken Hundred, 276 Smith Street, Brooklyn. www.newyorkwelsh.com/event/international-dylan-thomas-day/

 

YR ARIANNIN

14 Mai – ‘Under Milk Wood ym Mhatagonia’
Fideo sydd wedi’i ryddhau o ymarferion y ddrama yn yr Ariannin. Mewn cydweithrediad â Chyngor Prydain.

 

AWSTRALIA

13 Mai – Cymdeithas Dylan Thomas yn Awstralia, Ysgol Gelf Julian Ashton, 1.00pm
Dathliad o ‘Dylan Thomas a hiwmor’, gyda chinio ac wedyn darlleniadau am 2.00pm.

 

PERTH

13 MaiDarllen Barddoniaeth, Moon Cafe, 2.00pm-4.00pm
Bydd y bardd Bryn Griffiths o Gymru yn ymuno â Chlwb Barddoniaeth Perth.  Bydd yn perfformio barddoniaeth Dylan Thomas, ac yntau’n gefnogwr selog y bardd.

 

SELAND NEWYDD

12-14 Mai – Welsh Dragon Bar, Wellington
Darlleniadau a dangosiadau drwy gydol y penwythnos yn cychwyn ar 4.00 pm dydd Gwener 12 Mai.

 

LEEDS

14 MaiPnawn o Farddoniaeth, Mr Foley’s Ale House, 2.00 – 5.00 pm
Gyda darllenwyr nodedig a meic agored, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig detholiad o hoff gerddi gan Dylan yn ogystal â gwaith y beirdd eu hunain. Cyflwynir gan Hannah Stone ac mae’n cynnwys: Patrick Lodge, Paul Vaughan, Gill Lambert, Mark Connors, Antony Dunn, Nick Allen, Jane Kite, Amina Rose, Matthew Hadley Stoppard, Ian Harker, Alan Gillot, Peter White, Sandra Burnett, Char March, Rosalind York, and Joanna Ezekiel. Mr Foley’s Ale House, 159 The Headrow Leeds, LS1 5RG

 

TORINO, YR EIDAL

12 MaiDylan a Dylan, Binaria Book, 6.00 pm
Digwyddiad am ddim gyda sgyrsiau a mwy am ddylanwad Dylan Thomas ar Bob Dylan.

Nôl i Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas