Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Dydd Dylan yn ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu bywyd a gwaith y bardd enwog Dylan Thomas, a gynhelir yn flynyddol ar 14 Mai. Dyma ddyddiad darllediad cyntaf y ddrama Under Milk Wood a berfformiwyd yn wreiddiol ar lwyfan 92Y The Poetry Center, Efrog Newydd yn 1953.


Gwaith celf o dywod a grëwyd gan Marc Treanor ar draeth Cei Newydd i ddathli Dydd Dylan 2016. Comisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

‘The Craftsmen’, Baba Brinkman, ysgrifennwyd i goffau Dylan Thomas ar gyfer Dydd Dylan 2016. Comisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru.

 

Dywedodd cyfansoddwr, cantores, awdur a chyflwynydd Cerys Matthews MBE:

“Mae Diwrnod Dylan, sy’n cael ei ddathlu ar y diwrnod y perfformiwyd Under Milk Wood am y tro cyntaf erioed, yn esgus gwych i ddathlu’r saer geiriau cain hwn yn ogystal â’r gwaddol gwych o ddramâu, cerddi, traethodau a llenyddiaeth ledled y byd.”

Dywedodd Hannah Ellis, wyres Dylan Thomas a Chyfarwyddwr Creadigol ei ystâd lenyddol:

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas yn rhoi cyfle bob blwyddyn i ni ddathlu llwyddiannau Dylan Thomas. Mae brwdfrydedd o hyd am ddiwrnod cenedlaethol i nodi bywyd ac etifeddiaeth fy nhaid ac rydym am gadw Mai 14eg fel dyddiad amlwg ar y calendr llenyddol.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.discoverdylanthomas.com

 

Nôl i Archif Prosiectau