Cyfleoedd
Croeso i dudalen cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru, sydd yn cynnwys casgliad o gyfleoedd llenyddol mewnol ac allanol, o gystadlaethau i breswyliadau, o Gymru a thu hwnt. Pe hoffech i ni hyrwyddo unrhyw gyfle ar eich rhan, ebostiwch ni: post@llenyddiaethcymru.org
Cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru
Swydd Wag: Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau – 22 Mai (5:00pm)
Wyt ti’n berson creadigol sy’n caru llenyddiaeth, yn drefnus ac yn dda’n datrys problemau? Mae Llenyddiaeth Cymru yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Cyfathrebu a Digwyddiadau – rôl rhan-amser (22 awr yr wythnos) am gytundeb penodol 8 mis. Swyddi Gwag a Chyfleoedd Presennol – Llenyddiaeth Cymru
Cyrsiau ac Encilion Tŷ Newydd
Mae gennym ddewis eang o gyrsiau ac encilion creadigol ar gael yn Nhŷ Newydd – ein Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol. Porwch drwy’r holl gyrsiau ac encilion sydd ar gael.
Swydd
Live Music Now: Rheolwr Prosiect – 18 Mai
Mae Live Music Now yn elusen sydd wedi bod yn gweithio ac ymgyrchu ers 1977 i gael effaith gymdeithasol gynhwysol a mesuradwy drwy gerddoriaeth.
- Graddfa Gyflog: £21,000 (y flwyddyn)
- Math o swydd: Rhan amser, 3.5 diwrnod, 26.25 awr yr wythnos.
We’re Hiring! Project Manager, Wales / Rydyn ni’n cyflogi! Rheolwr Prosiect, Cymru – Live Music Now
Galwadau
Hack Publishing – Parhaus
Mae Hack Publishing yn chwilio am 10 awdur i ymuno ar brosiect cyffrous fydd yn archwilio gwaith nawr, a diwylliant gwaith yn y dyfodol. Bydd y prosiect ar ffurf casgliad o draethodau gyda 10 persbectif gwahanol, er ein bod yn annog awduron i arbrofi gyda genre.
Yn ogystal, maent yn chwilio am awduron i gyfrannu at eu rhifyn newydd o’r cylchgrawn. Gwytnwch yw thema’r rhifyn cyntaf. Gall awduron anfon gwaith o unrhyw genre hyd at 3,500 o eiriau. Dyma gyfle i awduron newydd weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi ar y cyd ag eraill.
Mae’r manylion llawn draw ar eu gwefan.
Wasafiri: Galwad am Bapurau a Gwobr Traethawd – Parhaus
Mae Wasafiri yn agored ar gyfer cyflwyniadau o erthyglau a thraethodau beirniadol, adolygiadau, a chyfweliadau ar bwnc llenyddiaeth gyfoes. Mae gwybodaeth am y broses gyflwyno ar gael yma.
Dyfernir Gwobr Traethawd Wasafiri i’r traethawd gorau o 5000-8000 o eiriau gan ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa ar bwnc llenyddiaeth gyfoes ryngwladol. Dylid cyflwyno ceisiadau trwy borth cyflwyno Wasafiri wrth ddewis yr opsiwn i’w ystyried ar gyfer y wobr. Bydd yr enillydd yn derbyn £250, cyhoeddiad ei draethawd, sesiwn fentora, a thanysgrifiad blynyddol i Wasafiri.
Mae mwy o fanylion am Wobr Traethawd Wasafiri ar gael yma.
Cylchgrawn Folding Rock – Parhaus
Mae Folding Rock bob amser yn chwilio am y ffuglen a’r llyfrau ffeithiol creadigol gorau yng Nghymru, o Gymru ac sy’n gysylltiedig â hi. Rydym yn derbyn gwaith gan awduron o unrhyw gam ac oedran, ac rydym yn talu am bob darn a gyhoeddwn. Mae galwadau bob amser ar agor ond bydd galwadau thema benodol ar gyfer pob rhifyn yn cael eu gwneud dair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn derbyn cynigion am gyfieithiadau, traethodau gweledol a gwaith amlgyfrwng – edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion: https://foldingrock.com/submit-your-work/
Os ydych chi’n awdur neu’n gyhoeddwr sydd â llyfr allan sy’n gysylltiedig â Chymru, dywedwch wrthym amdano yma: https://foldingrock.com/tell-us-about-a-book/
New Croton Review – Parhaus
Er bod y New Croton Review yn cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol yn Saesneg, rydym yn croesawu cyfieithiadau o waith a ysgrifennwyd mewn ieithoedd eraill (cyn belled â bod awdur y gwaith a gyfieithwyd, os oes gan awdur y gwaith a gyfieithwyd hawlfraint o hyd, wedi rhoi caniatâd i’r cyfieithu). Gall y rhai sy’n cyflwyno cyfieithiad Saesneg o’u gwaith eu hunain yn y Gymraeg hefyd gyflwyno’r fersiwn wreiddiol yn y Gymraeg a dylent nodi a yw’n well ganddynt, os derbynnir y cyfieithiad i’w gyhoeddi, gynnwys y fersiwn wreiddiol. Rhagor o fanylion: New Croton Review
Wasafiri: Galwad agored (Ffuglen a ffeithiol greadigol) – 1 Mai
Golwg Creadigol: Galwad am artist / ymarferydd creadigol – 11 Mai
Mae Golwg Creadigol yn gweithio gyda chynghorau Sir Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i greu strategaeth ddiwylliannol ar gyfer y siroedd hynny a’r rhanbarth yn fwy cyffredinol. Rydym yn edrych am artist/ymarferydd creadigol a fydd yn medru cynorthwyo ein hwyluswyr mewn sesiynau galw heibio a gweithdai cyhoeddus. Galwad am artist / ymarferydd creadigol – Swyddi360
Uncertain Stories – 29 Mai
Mae Uncertain Stories yn chwilio am straeon byrion i gyhoeddi yn eu blodeugerdd nesaf. Gwybodaeth: Submissions information for Uncertain Stories
Cystadlaethau
Eisteddfodau – Parhaus
Cynhelir nifer o Eisteddfodau ar draws Cymru ar hyd y flwyddyn, ble mae modd cystadlu mewn cystadlaethau llenyddol.
Gellir gweld y dyddiadau cau neu ragor o wybodaeth yn fan hyn.