Ar gyfer Awduron
Yn yr adran hon o’n gwefan, ceir gwybodaeth a chyngor ymarferol ac adnoddau defnyddiol. Yn ogystal ceir gwybodaeth am Cynrychioli Cymru, ein rhaglen ddatblygu newydd i awduron.
Gall awduron hefyd elwa o fynychu cwrs, neu gwrs digidol, yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, neu encil ym Mwthyn Encil Nant. Mae rhaglen gyrsiau Tŷ Newydd yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau preswyl a chyrsiau undydd – yn y Gymraeg a’r Saesneg – ar gyfer egin awduron ac awduron proffesiynol fel ei gilydd.
Dilynwch y tabiau isod i bori drwy’r adran Ar gyfer Awduron.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor, neu os hoffech drafod eich gwaith gydag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch â ni: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org