
Lansiad a Darlith – Syr O.M. Edwards: Y dyn a’r ddelwedd
Dewch draw i gyfrol newydd O. M.: Cofiant Syr O. M. Edwards (Gwasg Gomer) gan Hazel Walford Davies. Yn y sesiwn arbennig hon bydd y Prifardd Jim Parc Nest[ND1] yn holi’r awdur am y profiad o ysgrifennu’r cofiant arloesol hwn.
I ddilyn bydd darlith i goffáu canmlwyddiant marwolaeth Syr O. M. Edwards, un o gymwynaswyr pennaf y genedl, ac ar ddydd Gŵyl Dewi cyhoeddir cofiant llawn cyntaf y gŵr dylanwadol hwn. Yn y sgwrs bydd ei gofiannydd, Hazel Walford Davies, yn sôn am y darganfyddiadau annisgwyl a thra diddorol a wnaeth yn y broses o ysgrifennu’r cofiant. Ceir yn y gyfrol bortread tra gwahanol i’r eicon cyfarwydd, ac yn y sgwrs trafodir cryfderau, obsesiynau a chymhlethdodau O. M. ynghyd â thrasiedïau a siomedigaethau ei fywyd personol.
***Cyflwyniad trwy gyfrwng y Gymraeg***
***Darperir cyfieithu ar y pryd***
***Mynediad am ddim trwy docyn***