Un o’r rhannau allweddol o ddarparu gwaith teg i weithwyr llawrydd yw sicrhau ffioedd teg. Yn 2022 fe wnaethom gyflogi Prifysgol Aberystwyth i lunio astudiaeth o ffioedd teg yng Nghymru. Fe wnaeth yr ymchwil gynnwys 111 o awduron a threfnwyr digwyddiadau mewn arolygon a chyfweliadau i bennu amrywiaeth o rwystrau i awduron rhag cael cyflog teg. Er enghraifft, sefydliadau sydd ddim yn deall y gwaith a’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwaith i awduron, neu awduron sydd heb yr hyder i drafod ffi uwch.
Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir y problemau o fewn yr ecosystem lenyddol yng Nghymru ynghylch gwaith teg. Fodd bynnag, nid yw’r camau angenrheidiol yn glir nac yn hawdd. Bydd angen i’r sector lenyddol gyfan – cynulleidfaoedd, awduron, trefnwyr cymunedol, gwyliau, siopau llyfrau, sefydliadau mwy, a chyllidwyr – gydweithio i greu sector cryf a chynrychioliadol sy’n cefnogi awduron i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy. Gall siarad am arian fod yn anghyfforddus ond mae’n hynod o bwysig a dyma’r unig weithred a fydd yn arwain at newid ystyrlon.
Fel y cwmni cenedlaethol sydd yn gyfrifol dros ddatblygu llenyddiaeth, rydym am arwain trwy esiampl. Felly, rydym yn ymrwymo i gyhoeddi’n flynyddol y ffioedd rydym wedi’u talu, a phennu ystodau ffioedd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, byddwn ond yn partneru â sefydliadau sydd hefyd yn ymrwymo i dalu’r cyfraddau hyn, ac ni fyddwn yn dosbarthu cyllid i sefydliadau nad ydynt yn talu ffioedd teg.
Nid ydym yn ceisio cyfyngu ar awduron sy’n dymuno gweithio am ddim neu am ffioedd is o fewn eu cymunedau neu ar gyfer digwyddiadau penodol i gefnogi achos neu i ddatblygu eu gyrfaoedd, fodd bynnag rydym yn gofyn iddynt egluro pam fod eu cyfradd yn is/am ddim i drefnwyr digwyddiadau er mwyn hwyluso dealltwriaeth ehangach o bwysigrwydd gwaith teg i awduron. Gofynnwn i bob trefnydd digwyddiadau feddwl yn ofalus am gynigion ffioedd awduron cyn cysylltu â nhw, ac i fod yn agored ac yn barod i drafod gyda’r awduron.
O ganlyniad i’r adroddiad hwn, byddwn yn gweithredu:
– Tryloywder: Diweddaru ein canllawiau ffioedd yn flynyddol, ac adrodd ar y ffioedd rydym wedi eu talu i artistiaid am wahanol fathau o weithgareddau llenyddol yn ystod y flwyddyn flaenorol ar ein gwefan.
– Parch: Rydym yn addo talu awduron yn deg ac yn brydlon, gan gymryd gwaith paratoi a threuliau i ystyriaeth.
– Pŵer: Byddwn yn rhoi’r offer i awduron drafod yn effeithiol, gan gynnal gweminarau (webinars) hyfforddi agored wedi’u cynllunio i feithrin hyder, sgiliau a gwybodaeth. Yn ogystal, bydd ein holl raglenni datblygu awduron hirdymor yn cynnwys gwybodaeth ar ddatblygu sgiliau proffesiynol ochr yn ochr â’u gwaith creadigol.
– Cefnogaeth: Byddwn yn cynyddu ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau i £30,000 y flwyddyn o 2024 ymlaen, ac yn cynyddu’r canran y gall trefnwyr digwyddiadau wneud cais amdano i hyd at 75% o ffioedd a threuliau awduron. Yn ogystal ag addo’r swm hwn ar gyfer 2024, byddwn yn mynd ati i godi arian i gynyddu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y dyfodol.
– Platfform: Byddwn yn defnyddio ein platfform a’n rhwydweithiau i eirioli dros newid. Byddwn yn cefnogi trefnwyr digwyddiadau cymunedol trwy ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau i ddeall y materion sy’n wynebu awduron ac eirioli dros ffioedd teg. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyfathrebu barhaus sy’n arddangos yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa a ffrydiau incwm sydd ar gael i awduron. Bydd ein negeseuon yn ceisio hysbysu cynulleidfaoedd o realiti – y cyfleoedd a’r heriau – y proffesiwn ysgrifennu.