Dewislen
English
Cysylltwch

Fel rhan o gynllun Llenyddiaeth er Iechyd a Lles a ariennir gan Gyngor Gwynedd, trefnodd Llenyddiaeth Cymru fod y bardd, awdur a’r cyflwynydd Gwion Hallam yn ymweld â chartref gofal Seiont Newydd yng Nghaernarfon. Bu Gwion yn treulio amser gyda’r preswylwyr, sydd â dementia, dros gyfnod o chwe wythnos. Crëwyd sawl cerdd o eiriau ac atgofion y preswylwyr. Braf oedd gweld Gwion yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni gyda cherdd wedi ei ysbrydoli gan y gweithdai hyn.

Nôl i Llenyddiaeth er Iechyd a Lles