Y Babell Lên – Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd
Y Babell Lên yw cartref llenyddiaeth ar y Maes.
Lleolir y Babell Lên yn Theatr y Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd angen band garddwrn i gael mynediad yn ystod y dydd. Gallwch brynu band garddwn yma.
Llond lle o sgyrsiau diddorol; digonedd o drafod, a chyfle i gael blas ar rai o gyhoeddiadau diweddaraf y byd llenyddol yng Nghymru.
Dewch draw i’r Babell Lên am raglen lawn o weithgareddau drwy’r wythnos.
Trefnir y Babell Lên gan yr Eisteddfod.
Noddir gweithgareddau llenyddol yr Eisteddfod gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Dyma’r digwyddiadau llenyddol fydd yn cymryd ei le’n y Babell Lên fis Awst, yn y Bae:
Dydd Sadwrn 4 Awst
11:00-11:45 Agoriad Swyddogol y Babell Lên. Gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru, bydd cyflwyniad arbennig gan rai o ddisgyblion ysgolion Caerdydd dan arweiniad Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru. Byddant yn perfformio gweithiau sy’n dathlu’r Brifddinas a grewyd yn ystod gweithdai ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn eu hysgolion dan ofal Casia.
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Ffion Dafis
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Ynghanol Pethe Emyr Jenkins
14:15-16:00 Rownd Derfynol Talwrn y Beirdd, BBC Radio Cymru
Dydd Sul 5 Awst:
11:00-11:45 Plant y Chwyldro? Sioned Williams ac eraill
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Wil Garn. Storïwr Ianto Llwyd
13:30 Awdur y Dydd: Blas ar Gristnogaeth Cymru, Euros Wyn Jones
Dydd Llun 6 Awst
11:00-11:45 Hen Wlad fy Nhadau?
Sesiwn yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a’r bardd, perfformiwr ac addysgwr clare.e.potter yn cyflwyno profiadau rhai o ddinasyddion diweddaraf Caerdydd. Bu’r ddau yn gweithio hefo Salmeen Alshaibani a Tania Mohamad Shawri, awduron sydd wedi gorfod ffoi o ‘hen wlad eu tadau’ hwythau gan geisio lloches ac ymgartrefu yn ein prifddinas ni. Clywn gyfieithiadau o’u gwaith nhw a cherddi newydd gan Ifor a Claire wedi eu hysbrydoli gan y broses o gydweithio. Trefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru.
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Jon Gower
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Stafell fy Haul: Manon Rhys a Christine James
15:30-16:00 Llyfr y Flwyddyn 2018. Fe gyhoeddwyd yr enillwr ddiwedd mis Mehefin, a dyma gyfle euraidd i glywed yr awduron buddugol yn trafod eu cyfrolau llwyddiannus ac yn darllen o’u gwaith. Cynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru.
Dydd Mawrth 7 Awst
12:00-12:30 Stori wreiddiol gan Manon Rhys
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Thrillers Tywyll Llwyd a Jon! Pyrth Uffern ac y Duwch
14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên
Ymryson Barddas
17:45 Slot Chwarter i chwech! Clera – Aneurig!
Dydd Mercher 8 Awst
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Ceri Elen
12:45-13:15 Cennad: Catrin Beard yn holi Menna Elfyn am ei Llên Gofiant
14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên
Ymryson Barddas
17:45 Slot Chwarter i Chwech! Jarman y Bardd yn sgwrsio gyda Marged Tudur
Dydd Iau 9 Awst
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Geraint Lewis
12:45-13:15 Bodio’r Geiriadur: Myrddin Ap Dafydd
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Bywyd yn y Gorllewin Cymraeg Simon Brooks
14:15-16:00 Cyflwyno enillwyr cystadlaethau yr adran Lên
Ymryson Barddas
16:15 Bragdy’r Beirdd: Blas a’r gyfrol newydd Bragdy’r Beirdd
Dydd Gwener 10 Awst
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Catrin Dafydd
12:45-13:15 Hel Meddyliau: Alaw Griffiths a Meddwl.org
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Twt lol! Emyr Lewis, gyda Myrddin Ap Dafydd a Jerry Hunter
14:15-16:00 Rownd Derfynol
Ymryson Barddas
Dydd Sadwrn 11 Awst:
11.00-11:45 Dathlu Prif Enillwyr Llên: Dylan Iorweth
12:00-12:30 Stori Cyn Cinio! Stori wreiddiol gan Anni Llŷn
12:45-13:15 Ydy ein byd addysg yn lladd ein llên? Ion Thomas, Esyllt Maelor
13:30-14:00 Awdur y Dydd: Margaret, Margaret Williams a Hywel Gwynfryn
14:15-16:00 8 Allan o 10 Bardd Cwis, Cerddi a lot o chwerthin!
Er mwyn cael cip o’r amserlen lawn, clicliwch yma.
Bydd yr Eisteddfod yn gweithredu system bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau’r dydd a gynhelir yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau a leolir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd angen band garddwrn i fynychu;
- Pafiliwn
- Y Theatr
- Y Babell Lên
- Rhagbrofion cystadlu (bydd ambell ragbrawf tu allan i adeilad y Ganolfan)
Bydd modd archebu’r rhain ymlaen llaw neu’u prynu ar y diwrnod.
Ni fydd angen prynu bandiau garddwrn i grwydro Maes Bae Caerdydd na chael mynediad i’r adeiladau y tu allan i Ganolfan y Mileniwm;
- Y Lle Celf
- Shwmae Caerdydd
- Ty Gwerin
- Caffi Maes B
- Llwyfan y Maes
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Stondinau
- Pentref Bwyd
- Cymdeithasau
- Sinemaes
Nac ychwaith i grwydro llawr gwaelod y Ganolfan, lle bydd desg wybodaeth, caffi, siop a nifer o stondinau.