Llond llaw o ddigwyddiadau llenyddol sy’n cymryd rhan yn y Llannerch gan Llenyddiaeth Cymru, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd fis Awst.
Llun 11:00            Trafodaeth ar y ddrama Llwyth gan Dafydd James (Sherman Cymru).
Dan ofal Stonewall Cymru
 
Mawrth 11:00     Clwb darllen i bobl ifanc bl. 7 – 9: Trafodaeth ar Fi a Joe Allen gan Manon
Steffan Ros (Y Lolfa) neu dewch draw i drafod unrhyw lyfr o’ch dewis.
 
Mercher 11:00    Clwb Darllen i Ddysgwyr Lefel Sylfaen: Trafodaeth ar Y Fawr a’r Fach – Straeon o’r Rhondda gan Siôn Tomos Owen (Y Lolfa).
Dan ofal Cymraeg i Oedolion, Caerdydd
 
Iau 11:00             Trafodaeth ar y cyfrolau gyrhaeddodd Rhestr Fer Ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018: Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa); Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa); Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa).
Dan ofal Clwb Darllen Y Cornwall
 
Gwener 11:00    Trafodaeth ar y gyfrol Treiglo gan Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas).
Dan ofal Llyfrgell Ganolog Caerdydd