Dewislen
English
Cysylltwch

Sioe farddoniaeth amlgyfrwng sy’n edrych ar hanes Hedd Wyn o’r newydd, gan archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.

Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2017, dychwelodd Y Gadair Wag i theatrau a neuaddau ledled Cymru ym mis Chwefror a Mawrth 2019.

Yn 2017 roedd hi’n 100 mlynedd union ers Trydedd Brwydr Ypres (Passchendaele), lle bu farw miloedd o filwyr ac yr anafwyd oddeutu 3,000 o’r 38ain Adran (Gymreig).

Un o’r rhai a laddwyd yn y frwydr honno oedd Hedd Wyn, y bardd o Feirionnydd a fu farw cyn clywed ei fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Gorchuddiwyd cadair wag yr Eisteddfod â chynfas ddu a chofir Hedd Wyn hyd heddiw, yn Fflandrys fel yng Nghymru, fel symbol grymus o’r tywallt gwaed a’r gwastraff a fu.

Roedd Y Gadair Wag, a grëwyd gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru ac a gyfarwyddwyd gan Ian Rowlandsgyda chelf ddigidol gan Jason Lye-Phillips, yn archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth. Mae’n defnyddio ffilm a thechnegau arbrofol i edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd.

“Gwledd i’r llygad a’r glust!” Lowri Roberts (Athro)

Noddwyd y daith gan Yr Ysgwrn, Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, ac fe’i gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan S4C Yr Egin.

Nôl i Estyn yn Ddistaw