Dewislen
English
Cysylltwch

Estyn yn Ddistaw:

Dydd o Fyfyrio ar Farddoniaeth Rhyfel a Heddwch yng Nghymru

Dydd Mawrth 19 Chwefror 2019
Y Senedd, Bae Caerdydd

 

Wrth i’r digwyddiadau i nodi canmlwyddiant coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben, cynhaliodd Llenyddiaeth Cymru ddiwrnod arbennig o fyfyrio a thrafod ar ryfel a heddwch; gyda darlleniadau a chyflwyniadau gan Aelodau Cynulliad amrywiol, a pherfformiadau, darlithoedd comisiwn a sgyrsiau gan rai o awduron mwyaf Cymru.

Noddwyd y digwyddiad hwn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, ac fe’i drefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Roedd Estyn yn Ddistaw yn cynnwys perfformiadau o waith llenyddol gwreiddiol gan: Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru; Gillian ClarkeAlan LlwydEric Ngalle CharlesNerys WilliamsCywion Cranogwen; disgyblion o Ysgol Calon Cymru, Llanfair ym Muallt; Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd; Aelodau Cynulliad a mwy.

 

Gweler isod ragor o wybodaeth am brif elfennau’r prosiect.