Categori /
Digwyddiad
‘Ac Eto Nid Myfi’ gan Gymdeithas John Gwilym Jones
Dyma ddrama ddifyr a bywiog sy’n trafod llencyndod a thyfu i fyny, cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, ond y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd. Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan aelodau Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg Bangor, a dyma berfformiad gan y gymdeithas honno ar ei newydd wedd a dan ei henw newydd, sef Cymdeithas John Gwilym Jones.