Mae’r wladwriaeth les yn methu’r rhai sy’n ddibynnol arni. Mae degawdau o newid, dan faner adnewyddiad, wedi arwain at anghydraddoldeb a chaledi pellach. Ar yr un pryd, mae’r rhai sy’n cael eu gorfodi i ymdopi â’r system doredig yn cael eu pardduo a’u labelu fel sgrownjars. Mae A Sorry State yn gwrthod yr honiadau di-sail, gan ganolbwyntio ar ddygnwch y rhai sy’n dibynnu ar gefnogaeth y wladwriaeth i oroesi.

Wedi’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag unigolion sydd â phrofiad byw o anabledd, mae’r gwaith yma’n archwilio rhethreg boblogaidd drwy ffotograffiaeth, gosodwaith, cerflunwaith a pherfformiad, gan archwilio eu potensial fel syniadau ochrol newydd ar gyfer systemau cymdeithasol flaengar.

Mae’r prosiect yma’n dod â phrofiadau’r rhai sydd wedi profi’r system les yng Nghymru heddiw, gan wrando, dysgu a throsi eu profiadau yn waith celf. Drwy gydol yr arddangosfa, bydd Ffotogallery yn cyflwyno ac yn ailweithio deunyddiau hygyrchedd i wneud Ffotogallery yn lle mwy croesawgar a chynhwysol. Yn ystod y cyfnod yma, mae adborth yn hanfodol. Rydyn ni’n eich gwahodd i rannu eich profiadau gyda’r gweithiau newydd yma neu awgrymu ffyrdd eraill y gellir gwneud eich ymweliad yn fwy hygyrch.