Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Ein Cenhadaeth yn nodi y byddwn yn: ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron ac yn dathlu diwylliant llenyddol Cymru.

Bydd yr ymyraethau uniongyrchol a’r strategaethau a amlinellir yn ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019 – 2022 yn arwain at welliannau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Byddwn yn dilyn y gwelliannau hyn am dair blynedd gan ddefnyddio dulliau casglu data newydd. Mae ein diben yn glir, ac rydym wedi gosod targedau mesuradwy y byddwn yn eu defnyddio er mwyn monitro cynnydd.

Erbyn 2022, bydd Llenyddiaeth Cymru wedi cyfrannu at y canlynol:

  • Rhagor o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol, yn benodol rhai sy’n uniaethu â’r nodweddion yr ydym yn eu targedu
  • Rhagor o’r rheini sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau cymunedol yn symud ymlaen i elwa o’n mentrau Datblygu Awduron
  • Rhagor o gyfleoedd creadigol a phroffesiynol i egin awduron
  • Rhagor o awduron ifanc (rhwng 16-30 oed) yn ymgymryd â chyfleoedd creadigol
  • Rhagor o awduron profiadol yn cymryd rhan mewn prosiectau cenedlaethol a rhyngwladol sylweddol

 

Mae’n hysbys ers tro fod llenyddiaeth yn llesol i ni. Mae’r buddion a brofir gan bobl sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau yn cynnwys:

  • Gwell sgiliau siarad ac ysgrifennu (Cymru sy’n fwy cyfartal)
  • Risg is o salwch meddwl, a’r gallu i wrthsefyll salwch meddwl yn well (Cymru iachach)
  • Mwy o hunanhyder (Cymru gydnerth)
  • Y cyfle i ddarganfod bydoedd, athroniaethau a diwylliannau newydd (Cymru o gymunedau cydlynus)
  • Rhagor o gyfleoedd gwaith (Cymru lewyrchus)
  • Gwell gallu i ddangos empathi (Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang)
  • Llai o bobl yn teimlo’n ynysig (Cymru o gymunedau cydlynus)
  • Gwell sgiliau amlieithog (Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu)

 

Fel a nodir yn saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015.