Dewch i Gicio’r Bar – noson farddoniaeth a cherddoriaeth orau Aber, Ceredigion a’r byd – yng nghwmni dau o feirdd amlycaf y dre, Eurig Salisbury a Hywel Griffiths. Cerddi, caneuon a cherddoriaeth gan y cerddor a phrif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog, Iwan Huws – o’i gyfrol gyntaf newydd sbon o farddoniaeth (Barddas) – a chan y delynores anhygoel Georgia Ruth.