Maen nhw’n dweud bod gan bawb nofel yn llechu ynddynt. Ond un peth yw meddwl am y syniad yn ei hun, tra bod datblygu’r syniad yn nofel gyfan yn stori dra gwahanol. Ar y cwrs undydd hwn, bydd yr awdur Llwyd Owen yn rhannu ei brofiad o ddatblygu egin syniad yn nofel orffenedig, yn ogystal â rhannu ambell gyfrinach fydd o gymorth ar hyd y ffordd. Gan ddefnyddio’i nofelau ei hun fel man cychwyn, bydd yr awdur o Gaerdydd yn eich rhoi ar ben y ffordd ac yn esbonio sut y gall un olygfa neu gymeriad dyfu i fod yn stori gynhwysfawr.

Felly, os oes gennych chi lyfr yn llawn nodiadau yn llechu mewn hen ddrôr, neu hyd yn oed breuddwyd o droi cymeriad neu olygfa gofiadwy yn rhywbeth mwy sylweddol, ymunwch â ni ar y cwrs undydd hwn i gychwyn ar eich taith i greu nofel.

Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng 11.00 am – 5.00 pm. Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs.

 

Tiwtor

Llwyd Owen

Awdur a chyfieithydd yw Llwyd Owen. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn 2006. Mae wedi cyhoeddi’n gyson ers hynny ac mae’i nofelau’n cynnwys Ffydd Gobaith Cariad (2006), Yr Ergyd Olaf (2007), Mr Blaidd (2009), Un Ddinas Dau Fyd (2011), Heulfan (2012), The Last Hit (2013), Y Ddyled (2014) a Taffia (2016).