Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr genedlaethol flynyddol sy’n dathlu gwaith llenyddol Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn Gymraeg ac yn Saesneg mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.

Bydd Seremoni Fyw Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2026 yn cael ei arwain gan yr awdur a’r cyflwynydd teledu, Kristoffer Hughes yn Galeri, Caernarfon. Mae tocynnau nawr ar gael i’w prynu!

Ym mis Gorffennaf 2025, cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 yn Theatr y Sherman, Caerdydd gyda Iola Ynyr yn cipio’r Brif Wobr ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2025 gyda Camu a Carys Davies yn cipio’r Brif Wobr Saesneg gyda’i nofel Clear. Porwch drwy’r galeri o luniau o’r noson.

I bori drwy wobrau ac enillwyr y gorffennol sy’n cynnwys Caryl Lewis, Manon Steffan Ros, Llŷr Titus, Ffion Dafis a llawer mwy, cliciwch yma.

Dilynwch ni ar ein cyfrif Instagram am ddiweddariadau cyffrous Llyfr y Flwyddyn 2026: @llyfr_y_flwyddyn_wboty