Dewislen
English

Noddwyr a Phartneriaid Llyfr y Flwyddyn

Mae’n bleser mawr gennym weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr mewn nifer o sefydliadau ar draws y sector ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae’r partneriaethau hyn yn sicrhau bod yr uchafbwynt llenyddol hwn yn cael yr effaith gryfaf posib, a gellir dod o hyd i’w manylion yma:

Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyllid Craidd
Mwy
Llywodraeth Cymru
Cyllid Craidd
Mwy
Ymddiririedolaeth Rhys Davies
Noddwr
Mwy
Cyngor Llyfrau Cymru
Partner
Mwy
BBC Cymru Wales
Partner
Mwy
Golwg 360
Partner
Mwy
Wales Arts Review
Partner
Mwy
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyllid Craidd

Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n darparu cyllid craidd Llenyddiaeth Cymru ac maent yn yn credu bod y celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl. Maent yn troi’r genhadaeth hon yn weithred trwy ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Llywodraeth Cymru yw eu prif noddwr ac maent hefyd yn dosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol a chodi arian ychwanegol lle gallant o amryw ffynhonnell sector cyhoeddus a phreifat.

Gwefan: http://www.celf.cymru/

Cau
Llywodraeth Cymru
Cyllid Craidd

Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Llywodraeth Cymru yw prif noddwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gwefan: https://gov.wales/

Cau
Ymddiririedolaeth Rhys Davies
Noddwr

Mae Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn noddi Gwobr Ffuglen Rhys Davies, categori ffuglen Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Bydd y wobr hon yn dathlu talentau llenyddol arbennig Cymru mewn ffuglen Saesneg ei hiaith.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn 1991 gan Meic Stephens, a derbyniwyd nawdd ar ei gyfer gan Lewis Davies, brawd yr awdur Rhys Davies (1901-78). Mae’r ymddiriedolaeth yn elusen cofrestredig â’r prif nod o hyrwyddo a meithrin gwaith Cymreig Saesneg ei hiaith, yn enwedig yng Nghymoedd De Cymru ac yn y genres yr ysgrifennodd Rhys Davies.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.rhysdaviestrust.org/

Cau
Cyngor Llyfrau Cymru
Partner

Mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwefan: http://www.cllc.org.uk/

Cau
BBC Cymru Wales
Partner

Bydd y cyhoeddiadau eleni yn cael eu darlledu ar orsafoedd radio BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ag yn rhan o raglenni Stiwdio gyda Nia Roberts a The Arts Show gyda Nicola Haywood Thomas.

Cau
Golwg 360
Partner

Cylchgrawn diwylliant a materion cyfoes yn cynnwys newyddion, chwaraeon a chelfyddydau yw Golwg360.

Golwg360 sydd yn cydlynu gwobr annibynnol Barn y Bobl a fydd yn agor ar ôl cyhoeddi'r Rhestr Fer Gymraeg ar 20 Mehefin 2022.

Gwefan:https://golwg.360.cymru/

Cau
Wales Arts Review
Partner

Platfform i genhedlaeth newydd o adolygwyr a chelf garwyr yw Wales Arts Review. Mae'r platfform yn cynnig lle i gwrdd â chael trafodaethau cadarn a chynhwysol am lyfrau, theatr, ffilm, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau.

Wales Arts Review fydd yn cydlynu'r People's Choice Award, a fydd yn agor ar 1 Gorffennaf 2022 ar ôl cyhoeddi'r Rhestr Fer Saesneg.

Gwefan: https://www.walesartsreview.org/

Cau