Ceir tua deugain o fyrddau o lyfrau Cymraeg a Saesneg, hen a newydd; printiau; cardiau post a mân greiriau. Bydd pwyslais ar lyfrau Cymreig a Chymraeg. Digon o le parcio. Bwyd a diod ar werth. Mae modd cyrraedd y ddwy lefel mewn cadair olwyn.

Dyma’r degfed ffair i’w threfnu yn y Borth gan Gymdeithas Bob Owen, cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymreig sy’n elusen gofrestredig.