Plant a Phobl Ifanc
Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, mae Plant a Phobl Ifanc yn un o’n 3 Blaenoriaeth. Nid math o weithgaredd ydyw, ond thema sy’n amlygu ei hun trwy ein holl waith, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.
Ers 1 Ebrill 2019, mae dros 20% o’n cyfranogwyr wedi bod yn blant a phobl ifanc.
Cip ar weithgaredd: Bardd Plant Cymru
Mae’r Bardd Plant Cymru presennol, Gruffudd Owen, yn cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i blant mewn ffordd egnïol, ddynamig a chyffrous drwy weithdai, perfformiadau, comisiynu cerddi a llawer o weithgareddau amrywiol eraill. Mae’r prosiect hwn yn sicrhau bod plant rhwng 5-13 oed yng Nghymru yn cael y cyfle i arbrofi â llenyddiaeth Gymraeg.
Mae’r prosiect yn hybu creadigrwydd a gwella sgiliau cyfathrebu a hunan-fynegiant drwy gariad at lenyddiaeth. Ers Medi 2019, mae’r cynllun hwn wedi ymwneud â dros 420 o blant trwy weithdai mewn ysgolion. Cytunodd 94% o athrawon fod y plant wedi mwynhau yng ngweithdai’r Bardd Plant. Cafodd y plant eu cyflwyno i fydoedd, athroniaethau a diwylliannau newydd.
Mae’r cynllun hefyd yn anelu at gynnyddu darllen ac ysgrifennu er pleser o fewn ysgolion, a chytunodd 88% o’r athrawon eu bod wedi eu hysbrydoli i gynnal mwy o weithgareddau ysgrifennu creadigol gyda’r plant yn y dyfodol. Dywedodd un athro:
“Am weithdy gwych, llawn cyffro ac egni a ddeffrodd dychymyg bob un y dosbarth. Roedd yn ffantastig i weld a chlywed technegau newydd o ysgrifennu cerddi. Roedd yn grêt i weld Gruff yn cyfuno syniadau a sylwadau bob un disgybl fel bod pob un yn teimlo eu bod berchen a’r casgliad cerddi a wnaed yn unigryw i ni.”
Athro o Ysgol Dyffryn Banw
Mae Llenyddiaeth Cymru’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru I gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn ceisio cynnyddu sgiliau dwyieithog ein cyfranogwyr. Cynhelir gweithgareddau Bardd Plant Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae plant o gartrefi Cymraeg a di-gymraeg yn ymwneud â’r sesiynnau. Ers Mai 2019, mae 58% o’r disgyblion a gymerodd ran yng ngweithgareddau’r Bardd Plant wedi dod o gartrefi di-gymraeg.
Er mai mewn ysgolion y cynhelir rhan helaeth gwaith y Bardd Plant, mae hefyd yn ymdrin â phlant y tu allan i’r dosbarth a’n gweithio mewn partneriaeth â sawl sefydliad. Yn Ebrill 2019 ymunodd ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yng Nghasnewydd gyda Bardd Plant 2017-19, Casia Wiliam, a thîm Pêl-droed Cymru er mwyn ysgrifennu cerdd i gefnogi ymgyrch Cymru i gymhwyso ym Mhencampwriaeth Ewro Merched UEFA 2021.
Dyma fideo am y bartneriaeth rhwng yr FAW a Llenyddiaeth Cymru:
Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Credwn fod gan blant hawl i godi eu llais a rhannu eu storïau, a rho’r cynllun hwn y cyfle hynny iddynt.
Mae sawl rhan wahanol i’r cynllun, gan gynnwys ymweliadau ac ysgolion a gŵyliau, ac ysgrifennu cerddi comisiwn. Mae modd ceisio am ymweliad ar gyfer eich hysgol yn y fan hon. Am unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â barddplant@literaturewales.org neu ffoniwch 02920 472 266.