
Cynganeddu i Leisiau Newydd
Ymunwch â Mererid Hopwood a Karen Owen ar gwrs undydd ar y gynghanedd, cwrs arbennig i ddechreuwyr ar y grefft a’r rheiny sy’n chwilfrydig i ddysgu mwy amdani. Byddwn yn edrych ar y gwahanol fathau o gynghanedd, yn archwilio ffurfiau a mesurau cyffredin (ac ambell un anghyffredin efallai!), ac yn mwynhau darllen ambell gerdd gaeth i gael blas. Byddwn yn rhoi tro ar lunio llinellau, a bydd pawb yn gadael gydag o leiaf un cwpled i’w throi yn englyn yn eich amser eich hun. Dewch i rannu un o gyfrinachau hynaf y Cymry mewn naws gyfeillgar a chefnogol.
Trefnwyd y cwrs hwn ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Barddas i annog lleisiau newydd i arbrofi a datblygu ym myd y gerdd dafod. Bydd Cwrs Cynganeddu preswyl yn digwydd ym mis Mehefin, caiff unrhyw un sy’n betrus o gofrestru ar y cwrs hwy ddod i gael blas ar y cwrs hwn i ddechrau.
11.00 am – 4.30 pm
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety.
Mererid Hopwood
Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fardd Plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n-Og am ei nofel i blant, Miss Prydderch a’r Carped Hud (Gwasg Gomer) yn 2018. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n cydweithio â cherddorion yn cynnwys Karl Jenkins, Eric Jones, Gareth Glyn, Christopher Tin a Robat Arwyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn gadeirydd Cymdeithas y Cymod ac yn llywydd anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Mae’n Athro yn yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant lle bu’n dysgu er deng mlynedd.
Karen Owen
Bardd o Ben-y-groes yw Karen Owen, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith ac wedi perfformio ledled y byd. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn am lefaru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018. Daeth yn olygydd cylchgrawn Golwg pan yn 26 oed, ac yna’n gynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru. Bu’n ohebydd i bapur newydd Y Cymro ac yn olygydd gwasanaeth newyddion ar-lein golwg360. Yn 2017 cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru a llwyddo fel rhan o dîm i greu 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Mae’n feistr ar y canu caeth ac yn athro barddol, ac yn 2018 teithiodd ei sioe farddoniaeth, 7 Llais, o amgylch Cymru.