Dewislen
English
Cysylltwch

Enillwyr Ysgoloriaethau i Awduron 2020

 

Luned Aaron

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledol. Enillodd radd BA mewn Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn astudio yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Denmarc. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Cynllunio Theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfodau’r Urdd deirgwaith a bu’n canolbwyntio ar ysgrifennu i’r llwyfan, radio a’r sgrîn gan hyfforddi a darlithio yn y maes. Bu hefyd yn gweithio i gwmnïau teledu gan gyflwyno cyfres Y Sioe Gelf (Cwmni Da). Yn fwy diweddar, camodd i faes cyhoeddi, ac yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch). Bydd yr Ysgoloriaeth yn ei chynorthwyo i gwblhau nofel newydd i blant.

Rachel Dawson

Daw Rachel Dawson o Abertawe. Ar ôl astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd ei swydd gyntaf mewn lloches i ferched. Mae hi bellach yn gweithio i elusen iechyd meddwl ac yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gwraig. Pan nad yw hi’n ysgrifennu, mae hi fel arfer yn coginio. Mae Rachel yn gweithio ar nofel wedi’i gosod yng nghyfnod terfysglud wleidyddol a diwylliannol yr 1980au. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan wytnwch ein hynafiaid “cwiar”, a llawenydd caru menywod eraill. Bydd yn defnyddio ei Hysgoloriaeth Awdur i greu lle ar gyfer ysgrifennu, i gynnal cyfweliadau ychwanegol â chyfoeswyr yr amser, ac i ymweld ag archifau perthnasol pellach.

Instagram: @RachelDawsonWrites

Mari Ellis Dunning

Cyhoeddwyd barddoniaeth a straeon Mari Ellis Dunning mewn sawl cyfnodolyn a chasgliad. Yn 2016, enillodd y Terry Hetherington Young Writers Award ac yn 2017 enillodd ei cherdd ‘The Grey Mare’ Gystadleuaeth Barddoniaeth Nadolig Seren Books. Lansiwyd ei llyfr plant cyntaf, Percy the Pompom Bear yng Ngŵyl Ysgrifennu y Fenni yn 2016. Cyhoeddwyd casgliad barddoniaeth cyntaf Mari, Salacia, gan Parthian Books yn 2018, ac fe gyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2019. Mae hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ac yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Twitter: @mariiellis

Instagram: @mariellisdunning

Jonathan Edwards

Derbyniodd casgliad cyntaf o gerddi Jonathan Edwards, My Family and Other Superheroes (Seren, 2014), y Costa Poetry Award 2014 a Gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2015; roedd ar y rhestr fer i’r Fenton Aldeburgh First Collection Prize. Derbyniodd ei ail gasgliad, Gen (Seren, 2018) Wobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn 2019 hefyd, ac yn 2019 roedd ei gerdd am Bont Casnewydd ar restr fer y Forward Prize for Best Single Poem. Jonathan yw golygydd Poetry Wales ac Awdur Preswyl Llyfrgell Gladstone ar gyfer 2020. Mae’n byw ym Mhont-y-cymer, ger Casnewydd.

Sadia Pineda Hameed

Arlunydd ac awdur sy’n byw yng Nghaerdydd yw Sadia Pineda Hameed. Mae ei gwaith yn troi o amgylch ffurfiau anrhesymol o gyfathrebu; o fewn breuddwydion, ar draws achau, a thrwy brosesau sythweledol; fel modd i ymgorffori ein hanesion. Bydd ei Hysgoloriaeth Awdur yn cefnogi datblygiad gwaith arbrofol a ffuglennol-hunangofiannol, To Make Philippines. Mae Sadia yn cyd-redeg LUMIN, yr unig wasg anibynnol arbrofol yng Nghymru sy’n ganolbwyntio ar awduron ac artistiaid ar yr ymylon yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi wedi cael ei chyhoeddi gan Porridge Magazine, Amberflora, a Zarf ymhlith eraill; ac mae iteriad cynnar o To Make Philippines ar ddod mewn casgliad efo Parthian (2020).

Twitter: @piffspice

Instagram: @piffspice

Megan Angharad Hunter

Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ond mae bellach yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth. Cyn hynny, astudiodd yn Ysgol Dyffryn Nantlle a hoffai ddiolch i’w hathrawon yn yr adran Gymraeg yno am annog iddi gystadlu mewn eisteddfodau lleol, ble magwyd ei hyder fel darpar awdur. Pan fo’r amser ganddi y tu hwnt i waith prifysgol, mae hi’n mwynhau ysgrifennu’n greadigol ac mae wedi cwblhau drafft o nofel ar gyfer oedolion ifainc. Yn ogystal ag ysgrifennu, câi bleser o gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth ac mae hi’n canu’r ffliwt yng Ngherddorfa Jazz Prifysgol Caerdydd.

 

Trydar: @megan_angharad

Instagram: @meganangharad

Angela V. John

Bu Angela V. John yn Athro Hanes ym Mhrifysgol Greenwich am nifer o flynyddoedd. Mae hi yn byw yn Sir Benfro ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi dwsin o lyfrau, yn amrywio o fonograffau academaidd ar hanes menywod i lyfr i blant sydd wedi ennill gwobrau ac astudiaeth o’r nifer fawr o actorion o’i thref enedigol Port Talbot. Mae hi nawr yn canolbwyntio ar ysgrifennu bywgraffyddol. Mae ei phynciau wedi cynnwys Arglwyddes Rhondda, y gohebydd rhyfel Henry W. Nevinson, a’r actor Elizabeth Robins. Cyhoeddwyd ei casgliad o draethodau bywgraffyddol Rocking the Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990 yn 2018 (clawr meddal, 2019).

 

Twitter: @jlgeorgewrites

Sharon Marie Jones

Mae Sharon Marie Jones yn byw y tu allan i Aberystwyth. Mae hi’n briod ac yn fam i dri mab. Fe’i magwyd yng ngogledd Cymru fynyddig, gan wrando mewn rhyfeddod llydan-lygaid ar straeon gwerin am gewri a thylwyth teg. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth a bu’n gweithio fel athrawes ysgol gynradd am 13 blynedd cyn dyfod yn awdur amser llawn. Mae ganddi ddau lyfr plant wedi eu cyhoeddi gan Firefly Press: Grace-Ella: Spells for Beginners a Grace-Ella: Witch Camp. Bydd yr Ysgoloriaeth Awdur yn caniatáu iddi weithio ar lyfr plant newydd. Pan nad yw’n ysgrifennu, gellir ei chanfod yn darllen, rhedeg, neu chysgu.

Twitter: @sharonmariej

Catrin Kean

Mae straeon byr Catrin Kean wedi eu cyhoeddi yn Riptide Journal, Bridge House Anthologies, a The Ghastling, ac maent wedi cyrraedd rhestr fer y Fish Prize. Cafodd ei dewis ar gyfer y cynllun Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2016-2018. Derbyniodd nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer ei nofel gyntaf SALT, a gyhoeddwyd gan Gwasg Gomer yng ngwanwyn 2020. Mae hi yn byw yng Nghaerdydd gyda ei phartner a dau gi Ridgeback.

Instagram: @catrinkean

Faye Latham

Mae barddoniaeth Faye yn archwilio’r berthynas rhwng pobl, lle ac iaith. Mae ei gwaith wedi ei ysbrydoli gan dirweddau Cymru ac yn ei hamser rhydd mae’n mwynhau dringo a rhedeg ger ei chartref yn Eryri. Mae Faye wedi perfformio ei barddoniaeth yn y Kendal Mountain Literature Festival ac yn gweithio fel awdur a golygydd blog ar gyfer Intrepid, cylchgrawn awyr agored benywaidd-gyntaf. Graddiodd Faye o Brifysgol Bryste gyda gradd mewn Saesneg cyn cwblhau MA mewn Hanes Celf yn 2019. Bydd Ysgoloriaeth Awdur yn ei galluogi i ddatblygu ei chasgliad barddoniaeth cyntaf.

Twitter: @LathamFaye

Bev Lennon

Mae Bev yn hanu o dde Llundain a symudodd i’r Barri yn 1987. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn gynnar yn 1990. Mae ei gwaith i’r radio yn cynnwys ‘Learning Welsh’ ar BBC ‘Catchphrase’ a chael ei sioe ei hun ‘Bev’. Enillodd ei BA Ed erbyn 1997. Comisiynwyd ei braslun comedi teledu cyntaf gan ‘The Real McCoy’ (BBC). Mae hi i’w gweld yn The Joke’s On Us gan Pandora Press. Mae ei cherdd ‘The Consultation’ mewn casgliad Allan o’r Golwg (Disability Arts Cymru). Cafodd Bev ei anrhydeddu gyda’r Wisg Las yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019. Mae Bev yn ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ac yn mwynhau ysgrifennu creadigol. Mae hi’n athrawes gyflenwi ar gyfer Cymraeg.

Geraint Lewis

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a dwy gyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer Cymdeithas Allen Raine ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019. Bu’n ysgrifennu’n helaeth i’r theatr, radio a theledu ac mae’n mwynhau bod yn aelod o dîm ysgrifennu Pobol y Cwm. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Siân.

Gwefan: www.geraintlewis.net

Twitter: @GeraintTregaron

Efa Lois

Mae Efa Lois yn arlunydd ac awdur o Gymru. Enillodd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, Ysgoloriaeth Gelf Eisteddfod yr Urdd yn 2018, ac Ysgoloriaeth Geraint George Eisteddfod yr Urdd yn 2019. Yn 2017, sefydlodd y blog Prosiect Drudwen, sy’n dogfennu menywod anghofiedig hanes Cymru. Ers cychwyn y blog, mae dros 60 menyw wedi eu dogfennu ar y wefan. Mae Efa’n awyddus i ddatblygu nofel raffeg fyddai’n dathlu bywyd un o fenywod anghofiedig hanes Cymru. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Gwefan: www.efalois.cymru

Twitter: @efalois
Instagram: @efalois

 

Elan Grug Muse

Mae Grug Muse yn fardd, golygydd, ymchwilydd ac addysgwraig. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau yn cynnwys O’r Pedwar Gwynt, Codi Pais, Poetry Wales, Panorama: the journal of intelligent travel ac eraill. Roedd yn un o Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-19, ac fe enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2013, a Chadair yr Eisteddfod ryng-golegol yn 2019. Mae hi wrthi’n cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe ar lenyddiaeth deithio Gymraeg.

 

Twitter: @elan_grug

Instagram: @elangrug

Karen Owen

Mae Karen Owen wedi teithio’r byd yn perfformio ei cherddi, ond fydd ei chasgliad nesaf ddim yn canolbwyntio ar yr un lle, ond yn hytrach ar gyflwr a stad yr unigolyn. Bwriad y bardd a’r newyddiadurwr o Ddyffryn Nantlle yn ystod blwyddyn ei hysgoloriaeth ydi cwblhau cyfres o gerddi sy’n edrych ar y byd o safbwynt un llais yn y dorf. Teitl y gwaith fydd Fy Iawn Dwyll ac fe fydd yn gymysgedd o fesurau, cerddi caeth, cerddi rhydd a rantiau rhyddiaith. Mae Karen wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi – Yn Fy Lle (2006) a Siarad Trwy’i Het (2011) a hefyd y gyfrol Glaniad (2015) ar y cyd â Mererid Hopwood, wedi iddyn nhw ill dwy groesi paith Patagonia gyda’i gilydd. Cyhoeddodd Karen hefyd dair cryno-ddisg o’i cherddi – Lein a bît yng nghalon bardd (2016), 7 Llais (2017) a Dedwydd a Diriaid (2019). Enillodd wobrau Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2012. Roedd yn rhan o Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2017. A hi oedd enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Morgan Owen

Bardd ac ysgrifwr o Ferthyr Tudful yw Morgan Owen. Yn 2019, enillodd Wobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd. Mae’n gyfrannydd cyson i gyhoeddiadau Cymraeg megis O’r Pedwar Gwynt a’r Stamp, ac yn rhan o gynllun Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Y llynedd, cyhoeddodd ddau gasgliad o farddoniaeth, moroedd/dŵr a Bedwen ar y lloer, gyda Chyhoeddiadau’r Stamp. Yn 2019 enillodd Her Cyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru. Mae wedi cymryd rhan yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, ac mae wedi bod yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru. Mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio’n llawrydd.

Twitter @morgowen

Rebecca Parfitt

Mae Rebecca Parfitt wedi cyhoeddi straeon, barddoniaeth, ac erthyglau yn eang. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth gyntaf, The Days After, gan Listen Softly London yn 2017. Derbyniodd breswyliad Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Cyrhaeddodd restr fer gwobr ffuglen gyntaf Cinnamon Press yn 2018 am ei chasgliad o straeon byrion tywyll ac anesmwythol, Skin Mannequin & Other Macabres. Bydd yr Ysgoloriaeth Awdur yn caniatáu amser mawr ei angen iddi gwblhau’r casgliad. Hi yw sylfaenydd a golygydd cylchgrawn The Ghastling. Mae hi’n byw yng nghefn gwlad de Cymru gyda’i phartner a’i merch fach.

Gwefan: rebeccaparfitt.com

Twitter: @EditorRebecca

Instagram: @rlhparfitt

Llŷr Titus

Llenor a dramodydd o Frynmawr yw Llŷr Titus. Mae’n un o sylfaenwyr a’n olygydd cylchgrawn a gwefan lenyddol Y Stamp ac yn un o dri aeth ati i ddechrau Cwmni Tebot, cwmni theatr cymunedol yn Llŷn. Enillodd ei nofel ffuglen wyddonol i bobl ifanc Gwalia wobr Tir na n-Og yn 2016 ac yn yr un flwyddyn cafodd wobr Dramodydd Gorau yr Iaith Gymraeg yng ngwobrau Theatr Cymru am sgript ei ddrama Drych. Mae hefyd wedi gweithio fel awdur llawrydd ar gyfer y gyfres i blant Deian a Loli ac mae’n fyfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor.

Angharad Tomos

Magwyd Angharad Tomos yn Nyffryn Nantlle, lle mae’n awdur ers dros ddeugain mlynedd. Hi ysgrifennodd a darluniodd Cyfres Rwdlan. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod ddwy waith efo Si Hei Lwli (1991) ac Wele’n Gwawrio (1997). Mae’n ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg ers dros chwarter canrif. Mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn briod, ac yn fam i Hedydd. Mae’n mynd o gwmpas ysgolion a chymdeithasau yn rhannu ei diddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Mae’n awdur sawl drama, ac yn ystod y degawd diwethaf, mae wedi canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc.

Rhys Trimble

Mae Rhys Trimble yn fardd dwyieithog, arlunydd testun, arlunydd gweledol, perfformiwr byrfyfyriol, lleisydd, drymiwr, golygydd, pync, beirniad, cydweithredwr, cyfieithydd, siaman, avant bard(d) chwifiwr wialen, terfysgwyr geiriau a bloeddi-ŵr wedi’i leoli yng Nghymru. Mae gan Trimble ddiddordeb mewn metrigau avant-garde a Chymraeg. Mae’n awdur 12 neu fwy o lyfrau ac wedi perfformio mewn gwledydd o amgylch y byd gan gynnwys y USA a Jamaica. Cyfieithir gwaith gan Trimble i Slofacia, Sbaeneg, Pwyleg, Croateg, Galisia, Latfia, Twrceg a Gwyddeleg.

Gwefan: www.rhystrimble.com

Twitter: @rhystrimble

Instagram: rhystrimble

Laura Wainwright

Ganed Laura Wainwright yng Nghaerdydd a’i magu yng Nghasnewydd, lle mae hi’n dal i fyw. Hi yw awdur cyfrol o feirniadaeth lenyddol, New Territories in Modernism: Anglophone Welsh Writing 1930-1949 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2018).Cyrhaeddodd y rhestr fer yng nghystadleuaeth barddoniaeth y Bridport Prize yn 2013 a 2019. Cyhoeddwyd ei cherddi mewn nifer o gylchgronau a chyfnodolion. Bydd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn ei galluogi i orffen ysgrifennu ei chasgliad barddoniaeth cyntaf.

Twitter: @wainwrightlj

Nôl i Ysgoloriaethau i Awduron