Barddoniaeth
Hwn ydy’r llais, tybad? - Caryl Bryn (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn. Mae’n gasgliad sydd yn chwilio’n barhaus – yn swigod y noson gynt ac yn lludw’r bore wedyn; trwy ffenestri Bangor Uchaf, ar blatfformau trên yn Lerpwl ac ar draethau Gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus â galar, serch ac ieuenctid. Maent yn ddarnau o lenyddiaeth fydd yn aros yn hir yn y cof, ac yn gwneud i ninnau holi, ‘tybad?’
Daw CARYL BRYN yn wreiddiol o Borth Amlwch yn Môn, ond y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Bu iddi gyhoeddi cyfrol o gerddi, Hwn ydy’r llais, tybad? dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp yn 2019. Bu iddi ymgymryd â Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018 a derbyn Ysgoloriaeth Gerallt yn 2019. Yn yr un flwyddyn, daeth yn drydydd am Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Mae’n gyfrannydd cyson i gylchgronnau Y Stamp, Barddas a Barn, ac yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i chath, Grês Elin.
Ffeithiol Greadigol
Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones - Alan Llwyd (Barddas)
Eleni, mae hi’n 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a’r ysgolhaig T. Gwynn Jones. Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd hwnnw wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn. Trafodir ei fagwraeth a’i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno. Rhoddir cryn sylw i’w nofelau rhyddiaith sy’n esgor ar nifer o syniadau newydd oedd gan T. Gwynn Jones am gymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod. Ceir hefyd drafodaeth estynedig ar ei farddoniaeth wrth i’r awdur olrhain datblygiad manwl iawn o T. Gwynn Jones fel bardd. At hynny, gan fod y cofiant hwn yn cael ei ysgrifennu gan fardd am fardd, edrychir ar waith T. Gwynn Jones am y tro cyntaf â llygad, profiad ac arbenigedd bardd a thanlinellir pwysigrwydd hynny o gofio bod T. Gwynn Jones ei hun yn gymaint o arbrofwr â’r gynghanedd ac â’r mesurau traddodiadol. Dyma gyflwyno mewn cyfrol ddeniadol, felly, bortread newydd a chyflwyniad o’r newydd o T. Gwynn Jones i’r genedl a’r cynnwys wedi ei ymchwilio’n drwyadl gan gofiannydd profiadol iawn.
Mae ALAN LLWYD yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o’n beirdd a’n llenorion pwysicaf: Kate: Cofiant Kate Roberts 1891–1985 (Y Lolfa, 2011), Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884–1956 (Gwasg Gomer, 2013), Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904–1971 (Y Lolfa, 2014), Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899–1968 (Y Lolfa, 2016). Enwebwyd Gwenallt, Kate a Bob ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, gyda Bob yn ennill y categori ffeithiol-greadigol. Maent oll yn gofiannau hynod safonol a darllenadwy sy’n olrhain hanes bywyd y llenorion hyn yn fanwl a thrwyadl. Esgorodd ei ymchwil hefyd ar ffeithiau newydd am rai ohonynt a hynny’n ennyn chwilfrydedd y darllenwyr i wybod mwy am hanes bywydau rhai o Gymry amlycaf yr ugeinfed ganrif. Mae gan yr awdur Gadair Athro bersonol yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013.
Ffuglen, Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020
Babel - Ifan Morgan Jones (Y Lolfa)
Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae Babel yn adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.
Mae IFAN MORGAN JONES yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Bu’n ddirprwy olygydd ar gylchgrawn Golwg ac yn olygydd gwefan newyddion Golwg 360. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008.
Plant a Phobl Ifanc
Yr Horwth - Elidir Jones (Atebol)
Mae bwystfil yn bygwth y wlad. Creadur yn syth o ganol hunllef. Yr Horwth. Yr unig rai a all ei drechu yw criw bach o anturiaethwyr annisgwyl. Trwy borthladdoedd anhrefnus a choedwigoedd gwyllt, dros glogwyni serth ac ar hyd twneli wedi eu hen anghofio, mae’r llwybr yn arwain at y Copa Coch – mynydd sy’n taflu cysgod brawychus dros y tir … ac mae ei gyfrinachau mwyaf o dan yr wyneb, yn aros i’r teithwyr eu datgelu. Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc – ac i unrhyw un hŷn sy’n hoff o antur.
Awdur a sgriptiwr o Fangor yw ELIDIR JONES, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Yn 2019, cyhoeddwyd ei ail nofel, Yr Horwth, a’r nofel graffeg i blant Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, y ddau gyda Huw Aaron. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddwyd Peff, ei addasiad o Fing gan David Walliams. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a thair cyfres o Cynefin. Mae hefyd yn brif ymchwilydd ar y rhaglen drafod I Was There ar BBC Radio Wales. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac mae’n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com.
Enillwyr y Gwobrau Saesneg
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020
Broken Ghost – Niall Griffiths (Jonathan Cape)
Caiff cymuned Gymreig ei dynnu at ei gilydd a’i chwalu gan ddarlun rhyfedd yn y mynyddoedd: ysbryd enfawr dynes yn arnofio dros grib. Mae gan y trigolion eu cythreuliau’n barod – y ddiod, cyffuriau, trais yn y cartref, seicosis – ond mae pob cymeriad yn profi ac yn ymateb i’r ysbryd rhyfedd yma mewn ffordd wahanol, ac i rai, bydd yn newid popeth. Efallai mai rhithweledigaeth dorfol sydd yma? Neu ffenomen i wneud â’r tywydd? Naill ffordd, fe welsant hwy oll rywbeth yn gynnar un bore ar lannau llyn mynyddig, rywbeth a fydd yn eu deffro mewn pŵer ac angerdd, ac efallai, y posibiliad o iachau pobl friwedig mewn gwlad sydd ar chwâl.
Ganed NIALL GRIFFITHS yn Lerpwl yn 1966 ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru. Mae wedi cyhoeddi chwe nofel yn flaenorol: Sheepshagger; Kelly + Victor; Stump; Wreckage; Runt; ac A Great Big Shining Star. Mae’n gyfrannydd cyson i The Guardian, BBC, a chyfryngau eraill. Fe enillodd addasiad ffilm o’i drydedd nofel, Kelly + Victor, wobr Bafta.
Plant a Phobl Ifanc a Gwobr Barn y Bobl y Wales Arts Review
The Girl Who Speaks Bear – Sophie Anderson (Usborne)
O ddychymyg gwyllt yr awdur poblogaidd Sophie Anderson daw stori dylwyth teg telynegol am hud, perthyn, a dewis eich teulu eich hun. Wedi iddi gael ei gadael mewn ogof eirth pan yn fabi, mae Yanka wastad wedi pendroni o le y daw. Ceisia anwybyddu’r sibrydion a’r syllu gan drigolion y pentref, gan ddymuno ei bod hi’r un mor gryf y tu mewn ac y mae hi ar y tu allan. Ond pan mae angen iddi adael ei chartref ac edrych am atebion ynglŷn â’i gwreiddiau, mae’n mentro ar antur annisgwyl, o afonydd rhewllyd i fynyddoedd sy’n mudlosgi, gan gwrdd â grŵp cynyddol o ffrindiau hynod ar y ffordd.
Mae SOPHIE ANDERSON yn wreiddiol o Abertawe ac erbyn hyn yn byw yn Ardal y Llynnoedd mewn adeilad o eiddo Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt a’r cefn gwlad. Ysgrifennodd werslyfrau gwyddoniaeth nes i gymeriadau o lên gwerin Slafig ddechrau ymddangos yn ei gwaith. Dysgodd am y chwedlau gwerinol yma gan ei Mam-gu Prwsiaidd, a theimla Sophie gysylltiad cryf â’r chysylltiadau rhyngwladol hyn. Mae’n mwynhau’r rhyddid o addysgu ei phedwar o blant o adref, cerdded, canŵio a breuddwydio.
Barddoniaeth
Footnotes to Water – Zoë Skoulding (Seren)
Yn Footnotes to Walter mae Zoë Skoulding yn dilyn trywydd dwy afon anghofiedig – yr Adda ym Mangor a’r Bièvre ym Mharis – gan ddilyn llwybr defaid ar fynyddoedd Cymru. Ar y daith hon, mae hi’n datgelu bod ardaloedd trefol a gwledig fel safleoedd rhyng-gysylltiol bywiog, gan archwilio’r ffyrdd y mae ardal yn siapio ac yn cael ei siapio gan iaith.
Bardd yn bennaf yw ZOË SKOULDING, er bod ei gwaith yn cwmpasu o amgylch perfformiadau lleisiol ar sail sain, cydweithredu, cyfieithu, beirniadaeth lenyddol, golygu ac addysgu ysgrifennu creadigol. Mae hi’n Ddarllenydd yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o gasgliadau, gan gynnwys The Museum of Didsappearing Sounds (Seren) a oedd ar restr fer Gwobr Ted Hughes, a Remains of a Future City (Seren) gyrhaeddodd rhestr hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn.
Ffeithiol Greadigol
On the Red Hill – Mike Parker (William Heinemann)
Stori Rhiw Goch a’i drigolion yw On the Red Hill – stori aruthrol cymuned wledig ag etifeddiaeth sy’n hanu nôl yn bellach na’r brics a’r morter. Dathla On The Red Hill dro yn rhod y flwyddyn, o dirwedd gyfnewidiol i ddarganfod teulu yn y mannau lleiaf tebygol. Drwy ddefnyddio’r pedwar tymor, y pedwar elfen, a’r pedwar bywyd yma fel y strwythur, llunia Mike Parker archwiliad telynegol ond clir o’r byd naturiol, y sialens o dderbyn ein safle yn ei ganol, a beth mae’n ei olygu i ganfod ‘adref.’
Mae MIKE PARKER yn awdur ac yn ddarlledwr. Mae ei lyfrau yn cynnwys Map Addict a Rough Guide to Wales. Mae’n ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau The Guardian a’r Sunday Times, ac yn cyflwyno ar y radio a’r teledu.