Cefn Llwyfan: Rhaglen Gelfyddydol Ddigidol Eisteddfod yr Urdd
Cyhoeddwyd Iau 10 Medi 2020

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi lansio rhaglen ddigidol newydd, Cefn Llwyfan, ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed a fydd yn cael ei chynnal rhwng Medi a Rhagfyr 2020.
Mae Cefn Llwyfan yn raglen gyffrous o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau celfyddydol ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed, sy’n rhoi cyfle iddynt holi cwestiynau a chael cyngor gan arbenigwyr yn eu maes. Bydd sgyrsiau am berfformio, creu, ac am wneud y celfyddydau yn fwy cynhwysol yng Nghymru, a bydd pob sesiwn am ddim i aelodau yr Urdd. Mae Llenyddiaeth Cymru’n hynod falch o fod yn bartner ar y rhaglen newydd gyffrous hwn, ac yn edrych mlaen i genfogi’r digwyddiadau llenyddol, ‘Hunangyhoeddi dy waith llenyddol’ a ‘Gweisg Cymru: Sut i gyhoeddi dy waith’.
Mae braslun o’r rhaglen llawn i’w weld isod, ac mae’r holl fanylion i’w gweld yma ar wefan yr Urdd.
Mis Medi
- 22/09/2020 Hunangyhoeddi dy waith llenyddol
- 23/09/2020 Anabledd yn y Celfyddydau
- 24/09/2020 Sioe Gerdd: Sut i gyrraedd llwyfan y West End
Mis Hydref
- 07/10/2020 Privilege Cafe a’r Urdd
- 16/10/2020 Mynediad i Yrfa Canu Clasurol
- 21/10/2020 Pitchio dy syniadau i S4C a Hansh
Mis Tachwedd
- 11/11/2020 Y Celfyddydau LHDT+
- 18/11/2020 Sut i ddilyn Gyrfa Ddawns yng Nghymru
- 25/11/2020 Gwesig Cymru – Sut i gyhoeddi dy waith
Mis Rhagfyr
- 02/12/2020 Y Celfyddydau mewn Ardaloedd Dosbarth Gweithiol
- 08/12/2020 Dysgu Cymraeg: Sut i Gymryd Rhan yn y Celfyddydau
- 10/12/2020 Paratoi at Glyweliad Mewn Coleg Perfformio