Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i 4 pennod ar-lein. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.

 

Y perfformwyr yw . . .

 

Owen Shiers: Cerddor o Orllewin Cymru. Ei brosiect diweddaraf ydi ‘Cynefin’, sy’n cyflwyno cerddoriaeth a straeon colledig Ceredigion. Eleni rhyddhaodd yr albwm gwych ‘Dilyn Afon’ ac yn 2019 cafodd ei enwebu fel yr artist unigol orau yn y Gwobrau Gwerin.

 

Siân Miriam: Storiwraig o Sir Fôn. Enillodd Siân Wobr Esyllt Harker, sef gwobr chwedleua i ddatblygu llais newydd i ferched ym myd stori. Yn sgil hynny, mae Siân yn paratoi comisiwn chwedleua ddwyieithog newydd sef Coed Sy’n Siarad / Trees They Talk – fydd yn cael ei berfformio yng Ngŵyl Beyond The Border yn 2021.

 

Gwilym Morus-Baird: Cerddor o Wrecsam. Mae Gwilym yn gerddor brwd ac wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn ymchwilio ac yn dysgu cyrsiau ar chwedloniaeth Geltaidd.

 

Bydd y pedair pennod Cymraeg yn cael eu perfformio drwy feddalwedd Zoom rhwng Mis Hydref a Mis Rhagfyr eleni:

 

Pennod 1 – Tywysogion a Thaeogion

Sadwrn, Hydref 31ain (Cymraeg)

 

Pennod 2 – Hil a Therfysg

Sadwrn, Tachwedd 14eg (Cymraeg)

 

Pennod 3 – Dŵr a Thân

Sadwrn, Tachwedd 28 (Cymraeg)

 

Pennod 4 – Cynnal Cymru

Sawdrn, Rhagfyr 12fed (Cymraeg)