Awydd Cyhoeddi Llyfr yn y Gymraeg?
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyhoeddi llyfr o unrhyw fath yn y Gymraeg, boed yn ffuglen neu’n ffeithiol.
Cynnwys
Awydd Cyhoeddi Llyfr?
Oeddech chi’n gwybod bod Cyhoeddwyr yng Nghymru yn chwilio am ystod eang o lyfrau ar hyn o bryd, o bamffledi ffeithiol i nofelau i oedolion a llyfrau i blant?
Mae llawer yn breuddwydio am gyhoeddi nofel y ganrif, ac efallai fod honno yn y drôr gennych chi, ond mae angen awduron plant, awduron pobl ifanc, pobl sy’n gallu casglu ffeithiau a’u cyflwyno mewn ffordd ddiddorol.
Yn ystod y sesiwn anffurfiol yma, bydd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi, Cyngor Llyfrau Cymru, yn rhoi trosolwg o’r diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys :
Gorolwg o’r Cyngor Llyfrau a’r gefnogaeth mae’n gallu ei gynnig i awduron newydd o bob math, o ganfod cyhoeddwr, i ddylunio cloriau, a phrawf ddarllen, i hyrwyddo llyfrau, siopau llyfrau a dosbarthu’r llyfr o shed i siop.
Y mathau o lyfrau sy ar gael: Mae’r diwydiant cyhoeddi angen llawer o wahanol fathau o ysgrifenwyr a golygyddion.
Gorolwg o’r cyhoeddwyr: mae nifer o gyhoeddwyr Cymraeg i gael ac mae pob un yn chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol.
Pa sgiliau sy’n trosglwyddo: mae gan awduron a golygyddion sy a phrofiad o weithio ym myd teledu a radio lawer o sgiliau gwerthfawr i’w cynnig i’r byd cyhoeddi llyfrau … ydyn nhw gennych chi?
Llyfrau Parod: Os oes gennych chi lyfr yn y drôr, beth yw’r ffordd orau o fynd o chwmpas ei chyhoeddi hi?
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chael cyngor bellach yn ystod y sesiwn.