Er mwyn gwylio’r fideo gydag is-deitlau / cyfieithiad, cliciwch y botwm is-deitlau ar y fideo YouTube.
Cafodd Gweddi am Frws Gwallt ei hysgrifennu gan Nia Morais a’i perfformio gan Angharad Harrop a’i merch Nansi gyda cerddoriaeth Helen Wyn Pari. Mae’n portreadu yr agosrwydd tawel o mam yn brwsio gwallt ei phlentyn, gweithgaredd syml llawn gofal a phryder sy’n dod gydag anfon plentyn ifanc i’r ysgol yn ystod y pandemig.
Artistiaid
Awdur Gymraeg o Gaerdydd gyda gwreiddiau o Cape Verde yw Nia Morais. Mae hi’n ysgrifennu barddoniaeth, dramau, a ffuglen fer. Cafodd ei ddrama clywedol cyntaf, “Crafangau”, ei rhyddhau gan Theatr y Sherman yn 2020. Mae Nia yn awdur ar raglen Sgwennu Newydd Frân Wen mewn cydweithrediad âg Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae hi’n angerddol am ddatblygu gwaith sy’n adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth Cymru gyfoes.
Mae Angharad Harrop yn artist dawns annibynnol sydd wedi ei sefydlu yng Ngogledd Cymru ac mae’n mwynhau perfformio, dysgu a choreograffu ar lwyfan ac mewn lleoliadau. Mae hi’n gyd-gyfarwyddwr cwmni perfformio rhyngwladol Cymru: Brasil, sy’n creu gweithiau drwy rannau o ddiwylliannau gwerin Cymru a Brazil. Mae Angharad wedi gweithio gydag artistiaid megis Julie Nioche, Marc Rees a Filipa Francisco, fel dawnswraig a choreograffwr, drwy gyfleoedd gyda Theatrr Genedlaethol Cymru a Migrations. Mae hi’n ddarlithydd Dawns ym Mhrifysgol Caer, mae’n Gyfaill Dawnsio ym Mhontio, Bangor ac yn gweithio tuag at ei PhD mewn Ymgorfforiad a Pherfformio ym Mhrifysgol De Montfort, Caerlŷr.
Y Gerdd
Gweddi am Frws Gwallt
Mae’r byd yn glais, forwr bach.
Mae’r glaw yn treiddio, yn clymu, yn atal,
yn llenwi ein diwrnodau, yn cuddio’r corynnod dan frigau noeth.
Pob bore, dy lygaid yn ludiog gyda swyn dy gwsg,
dwi’n casglu dy wallt sidan yn fy llaw,
ac yn cydio, yn ffurfio
breichled aur o hud a lledrith.
Dwi’n brwsio, yn anadlu, yn gwylio
petalau cochion ac emralltau sgleiniog
yn cwympo o dy glustiau,
A thithe dal yn glai meddal, yn amharod i’r byd.
Faint wyt ti’n wybod am boen?
Ei dafod amharchus yn trio am ddant i siglo?
Cofia’r nerth yn dy draed, lwynog chwim;
Cofia air dy fam yn wynt ar dy ol.
Gyd sy gen i yw fy nghariad.
Gweddiaf gyda phob pwyth, yn gwehyddu
dy fywyd i f’un i.
Mae’r brws yn plethu, yn plygu, yn troelli
fel corwynt lawr y blynyddoedd.
I ti, y môr lle mae fy afonydd yn gorffen.
Ym mhob llif o dy wallt sidan, dwi’n plethu
mymryn o fy nerth, hanner-eiliad o fy nghariad
yn gobeithio swyno’r glaw i ffwrdd.
Gad i fy mrws droi yn gwch,
yn dy lywio di drwy’r diwrnod ysgol
ac yn ôl i fy mreichiau.
Gweddiaf fod y byd ddim yn ormod heddiw.
Gweddiaf am wynt teg a thonnau distaw.
Ac am dy wên, dy ddwylo, dy wallt anniben.
//
Prayer for a Hairbrush
The world is a bruise, little sailor.
The rain invades, knots, stops,
bloating our days, hiding spiders under naked branches.
Every morning, your eyes glued by sleep’s charm,
I collect your silk-hair in my hand,
and hold, and form
a golden bracelet of magic and sorcery.
I brush, and breathe, and watch
as red petals and shining emeralds
fall from your ears,
and you, still soft clay, are unready for the world.
What do you know of pain?
Its careless tongue searching for teeth to worry?
Remember the strength in your feet, quick fox;
Remember your mother’s word as wind at your back.
All I have is my love.
I pray with every stitch, weaving
your life to mine.
The brush braids, bends, turns
Like a tornado down the years.
To you, the ocean where my rivers end.
In every current of your silk-hair, I plait
A sliver of my strength, a half-second of my love,
Hoping to witch the rain away.
Let my brush become a ship,
guiding you through your school day
and home to my arms.
I pray that the world isn’t too much today.
I pray for fair winds and calm waves.
And for your smile, your hands, your untidy hair.