
Lleisiau o Gymru
Dathlu llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru yn yr Almaen
Gyda digwyddiad digidol yn Almaeneg, Cymraeg a Saesneg
Dyddiad: 7 Medi 2021
Amser: 6.00pm – 7.30pm (British Summer Time) /
7.00pm – 8.30pm (Central European Time)
Dolen i wylio’r digwyddiad am ddim:
https://online-live-event-de.zoom.us/j/85849347164
(nid oes angen cofrestru)
Mae partneriaid yn yr Almaen a Chymru wedi ymuno i ddathlu llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru, fel rhan o Flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 Llywodraeth Cymru. Nod yr ymgyrch hon yw arddangos rhychwant y gweithgaredd a’r cyfnewid sy’n digwydd yn yr Almaen ac yng Nghymru a hynny yn y meysydd masnach, gwyddoniaeth a arloesi, diwylliant a’r celfyddydau, addysg, cyn-fyfyrwyr, twristiaeth, cysylltiadau dinesig a datblygu cynaliadwy.
Ar gyfer y digwyddiad Lleisiau o Gymru, mae Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd â’r Literaturbüro Westniedersachsen, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a British Council Cymru. Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu ac yn arddangos llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru mewn digwyddiad digidol mewn tair iaith wedi’i anelu at gynulleidfaoedd newydd yn yr Almaen a rhai sy’n ymddiddori yn niwylliant Cymru ledled y byd.
Bydd y noson yn gymysgedd o elfennau byw a rhai wedi’u recordio ymlaen llaw. Bydd yn cynnwys darlleniad o Crazy Gary’s Mobile Disco, drama gan y dramodydd o Gymru, Gary Owen, wedi ei gyfarwyddo gan ddramaturg o’r Almaen, Jens Peters. Perfformir y darlleniad gan actor o’r Almaen, Soheil Emanuel Boroumand.
Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a’r bardd arobryn, Mererid Hopwood, y fenyw gyntaf i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chymrawd Rhyngwladol y Gelli 2021, yn darllen o’u cerddi yn Gymraeg a Saesneg ac yn trafod eu gwaith gyda’i gilydd. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi-ac-ateb byw.
Rhwng sgyrsiau bydd cyfle i glywed y cerddor o Gymru, Kizzy Crawford yn perfformio rhai o’i chaneuon. Cyflwynir hefyd rhai ffilmiau byr a delweddau o gefn gwlad hyfryd Cymru, trwy garedigrwydd Croeso Cymru, a bydd cyfle i ailedrych ar y ffilm Aber Bach, rhan o’r prosiect Plethu/Weave sy’n cyfuno llenyddiaeth a dawns, a gynhyrchwyd gan Llenyddiaeth Cymru a’r Cwmni Dawns Cenedlaethol. Mae’r darn yn cynnwys barddoniaeth mewn Almaeneg, Cymraeg a Saesneg gan Mererid Hopwood, a symudiadau gan y ddawnswraig Elena Sgarbi.
Cynhelir y digwyddiad ar Zoom nos Fawrth 7 Medi rhwng 6.00pm – 7.30pm (British Summer Time) / 7.00pm – 8.30pm (Central European Time) ac mae’n rhad ac am ddim i gynulleidfaoedd ble bynnag yn y byd y bont. Darperir cyfieithu o’r Almaeneg/Gymraeg i’r Saesneg. Gellir mynychu’r digwydd trwy’r ddolen hon: https://online-live-event-de.zoom.us/j/85849347164