Mae’r her i ddod o hyd i Storïwr Ifanc Cymru 2021-2022 yn ôl!
I ddathlu adrodd stori ar draws Gymru gyfan, rydym yn edrych ymlaen i’ch gwahodd yn ôl i Venue Cymru i gymryd rhan, rhoi cyfle ar adrodd stori eich hun, neu ‘Adrodd am Aur’.

A Story! Let it Come!
1300 – 1330
Ymunwch â’r storïwr Gillian Brownson ar gyfer croeso a stori o’r môr, i roi blas i chi cyn i ni agor y llwyfan ar gyfer ein storïwyr ifanc!
Bydd Gillian yn adrodd yn Saesneg gyda dialog a chanu Cymraeg.

Straeon Agored
1330 -1430
Gallwch adrodd yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dyma eich cyfle chi i ‘roi cynnig arni’, i stopio a dechrau, i roi cynnig ar leisiau ac arddulliau gwahanol, i adrodd darn bach neu i ddweud stori gyfan. Gall eich stori fod am unrhyw beth, gallwch ddyfeisio stori ar y pryd, neu gallwch ailadrodd stori rydych wedi ei ddarllen neu ei glywed filiynau o weithiau; Sut bynnag rydach chi’’n ei hadrodd, rydym ni eisiau ei glywed!
Ar agor i bawb – o Gymru a thu hwnt

Adrodd am Aur: Storïwr Ifanc Cymru 2021
1500-1630
Gallwch berfformio yn fyw trwy zoom neu mewn person yn yr ŵyl.
Cadwch eich stori i 6 munud neu lai.
Gallwch adrodd yn Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.
Bydd gwobr ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan a gwobr arbennig ar gyfer yr enillydd ymhob categori.
Os ydych o ddifrif am adrodd stori, dyma’r digwyddiad i chi!
Yn yr holl gategorïau, gofynnwn eich bod yn byw, neu’n dod o Gymru.

Categorïau
Storïwr Ifanc Cymru 7-11 oed
Storïwr Ifanc Cymru 12-15 oed
Storïwr Ifanc Cymru 2021 16-25 oed

Cyhoeddi a Gwobrwyo’r Enillwyr: Jacob Williams a Fiona Collins
1700 – 1730
Ymunwch â Sylfaenydd yr Ŵyl a’r storïwr amryddawn, Fiona Collins, wrth i ni ddathlu pob cystadleuydd ac enillydd ymhob categori.
Ar ôl hynny, rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydd Storïwr Ifanc presennol Cymru, Jacob Williams, yn rhannu ei stori fuddugol unwaith eto, cyn trosglwyddo ei goron ymlaen, a chyhoeddi enillydd y categori 16+ a Theitl, Storïwr Ifanc Cymru 2021.

Pwy ydym ni’n chwilio am ar gyfer ‘Adrodd am Aur’?
Yn y categorïau oedran 7-11 a 12-15 rydym yn chwilio am Storïwr ifanc ymrwymedig sydd eisiau cyfle i ddangos eu dawn.
Yn y categori 16-25, rydym yn chwilio’n benodol am Storïwr a fydd yn hapus i gymryd y rôl Storïwr Ifanc Cymru am y flwyddyn. Yn y rôl hwn, byddwch yn helpu gweithwyr proffesiynol adrodd stori i ddatblygu hyn fel crefft ac ysbrydoli pobl ifanc hefyd. Bydd gennych y cyfle i gael eich mentora gan storïwr proffesiynol hefyd.

Sut i gystadlu
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu’n dod o Gymru, yn dros 16 oed ac yn teimlo y gallwch chi fod yn Storïwr Ifanc nesaf Cymru, mae cystadlu yn hawdd. Anfonwch baragraff neu grëwch fideo byr (dim mwy na 2 funud) yn dweud wrthym ni pam eich bod yn caru adrodd straeon. Yna, dewch draw i’r ŵyl i adrodd eich stori, yn fyw yn y digwyddiad neu o’ch cartref drwy Zoom.
Gallwch gyflwyno eich paragraff neu fideo byr yma: gillybrownson@sky.com

Er mwyn archebu, cysylltwch â
gillybrownson@sky.com
Nodwch pa ddigwyddiadau yr hoffech eu mynychu.
Os ydych am gystadlu yn yr ‘Adrodd am Aur’, nodwch pa gategori oedran yr ydych ynddo