
Iau Cyntaf Arlein: Tony Curtis
Ar gyfer ein dydd Iau cyntaf yn 2022, mae’n bleser gennym groesawu’r Athro Tony Curtis yn rôl yr awdur a’r golygydd. Nid yn unig y bydd Tony’n darllen o’i nofel gyntaf Darkness in the City of Light, bydd Lynne Hjelmgaard a Jane Clarke, cyfranwyr i Where The Birds Sing Our Names, blodeugerdd newydd a gyhoeddwyd er budd Hospis Plant Tŷ Hafan, yn ymuno ag ef hefyd.
Yn ôl yr arfer bydd meic agored yn dilyn ein prif ddarlleniadau. Anfonwch e-bost at sarahjohnson@serenbooks.com i gofrestru.
Mae tocynnau yn £2 ynghyd â ffi weinyddol Eventbrite ac ar gael o www.eventbrite.co.uk.
Sylwch: Bydd gwerthiant tocynnau yn cau am 7:00pm GMT ddydd Iau 3 Chwefror, ac ar ôl hynny bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn e-bost gan Eventbrite yn cynnwys dolen Zoom. Os na fyddwch chi’n derbyn yr e-bost hwn neu’n cael trafferth dod i mewn i’r cyfarfod e-bostiwch sarahjohnson@serenbooks.com yn uniongyrchol.
Bydd capsiynau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael eu darparu gan Otter.ai.