Bydd John Cooper Clarke yn hel ei bac i fynd ar ei daith wedi’i had-drefnu, ‘I Wanna Be Yours’, yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon drwy fis Hydref 2021 hyd at fis Mehefin 2022. Oherwydd mawr alw amdano ychwanegwyd oed newydd yng Nghaerdydd yn Neuadd Dewi Sant nos Wener 10fed Mehefin 2022.

Mae John Cooper Clarke, sydd hefyd yn mynd dan yr enw Bardd Salford, yn dipyn o ryfeddod:yn Fardd Llawryfog Pync, yn seren roc, yn eicon ffasiwn, yn gyflwynydd ar y teledu a’r radio, yn sylwebydd cymdeithasol a diwylliannol – mae’n un o hoff awduron a pherfformwyr Prydain.

Rhyddhawyd cofiant newydd John, I Wanna Be Yours, ar 15fed Hydref 2021 gan Picador.Mae’r llyfr yn chwilio’i fywyd hynod sy’n heigio gan gymeriadau go arbennig: o Nico i Chuck Berry; Bernard Manning i Linton Kwesi Johnson; Elvis Costello i Gregory Corso; Mark E. Smith i Gil Scott Heron a Joe Strummer ac ymlaen hyd at selogion a chydweithredwyr diweddarach fel Alex Turner, Plan B a Guy Garvey.Yn frith o hanesion ei yrfa berfformio ym myd roc a rôl, mae sioe John hefyd yn dadlennu ei farn hollgynhwysfawr syfrdanol ar ddiwylliant poblogaidd dros y canrifoedd: o Baudelaire ac Edgar Allan Poe, i Gelf Pop, cerddoriaeth pop, y pictiwrs, ffasiwn, pêl-droed a byd adlonaint – a hen hwyl a hanner ar hyd y ffordd.

Stondin sy’n ddigon i fynd â’ch gwynt chi ydi sioe newydd John, yn farddoniaeth ac yn weithiau ar barabl, sy’n rhannu straeon ei fywyd anhygoel a’i yrfa sgubol o lwyddiannus.  Bydd JCC yn mynd â chi ar daith anhygoel, yn ddarnau o’r llyfr newydd yn ogystal â’i fyfyrdodau arferol, ei barablu gwirion bost, riffiau, jôcs a smaldod drygionus.