
Categori /
Barddoniaeth
A470: Cerddi’r Ffordd
Mae A470: Poems for the Road / Cerddi’r Ffordd yn gasgliad dwyieithog o gerddi newydd gan feirdd o Gymru yn ymateb i’r ffordd 186 milltir o hyd sy’n rhedeg o un pen o’r wlad i’r llall – o arfordir y gogledd i lawr i’r de.
O lan-y-môr i chwareli llechi, o orsafoedd ynni niwclear i goedwigoedd, mynyddoedd a’r brifddinas, mae’r cerddi a gynhwysir yn y flodeugerdd hon yn mynd â ni ar daith trwy gof, chwedl, cariad a galar.
Ymunwch â ni am noson o ddarlleniadau barddoniaeth a sgyrsiau dwyieithog gyda nifer o’r beirdd a gynhwysir yn y gyfrol.
**Digwyddiad dwyieithog – darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer darlleniadau Cymraeg**