
Categori /
Barddoniaeth, Darlith
Ifor ap Glyn & clare e. potter: M’aidez, M’aidez!
Bydd ein Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn cael ei ymuno a clare e. potter i archwilio sut gall barddoniaeth ddod i’n hachub.
Ymunwch a ni am noson hyfryd, ddwyieithog o gerddi Calan Mai amgen. Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2016, ac fe enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Mae clare e. potter yn fardd dwyieithog, yn gyflwynydd radio ac yn artist cyfranogol.
Yn ogystal â pherfformio cerddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd Ifor a clare yn trafod y thema o ddefnyddio barddoniaeth ar gyfer adferiad a chysur, gyda natur ac iaith yn ysbrydoliaeth ac yn ffynhonnell iachâd… a hud, hyd yn oed.