Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop sy’n denu tua 90,000 o ymwelwyr ar draws chwe diwrnod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos y Sulgwyn.

Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu bob blwyddyn mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio. Rhain yw’r buddugol o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y Genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarthol sydd yn cael eu cynnal yn ystod misoedd y gwanwyn cyn yr Eisteddfod.

Canolbwynt yr Eisteddfod yw’r Pafiliwn ble mae’r cystadlu yn digwydd ond yn amgylchynu’r Pafiliwn mae cannoedd o stondinau lliwgar sydd yn cynnig ystod eang o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan – o feiciau modur, dringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw a sioeau plant gyda chymeriadau teledu. Yn ogystal â hyn, gallwch ymweld â’r Arddangosfa Gelf sydd yn gartref i’r holl waith cystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnolegyw Eisteddfod – tua 500 o ddarnau o waith!

Archebwch eich tocyn arlein.