
Ysgrifennu’r Amgylchedd, Amgylchedd Ysgrifennu
Mae Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru yn falch o gyhoeddi ymweliad â Chymru gan yr awdur Quebecois arobryn Christian Guay-Poliquin fel rhan o brosiect cydweithredu â Gŵyl Metropolis Bleu Montreal a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae Ysgrifennu’r Amgylchedd, Amgylchedd Ysgrifennu yn gyfres o dri digwyddiad byw sydd wedi datblygu o’n cydweithrediad â Gŵyl Metropolis Bleu ym Montreal sy’n dwyn ynghyd Christian Guay-Poliquin gyda’r awdur a’r sgriptiwr o Gymru Fflur Dafydd i fyfyrio ar ein perthynas â natur a’i heffaith ar yr amgylchedd ac ymddangos gyda’i gilydd yn eu lleoliadau cartref. Yn Aberystwyth bydd Christian yn sgwrsio gyda’r nofelydd Siân Melangell Dafydd am ysgrifennu mewn iaith fechan ac am sut mae’r mudiad iaith yn Quebec wedi llunio diwylliant yn y dalaith ac yn ninas fywiog Montreal.
Aberystwyth, Theatr Arad Goch, Stryd Y Baddon 9fed Mehefin 18:30 – 20:00
Christian Guay-Poliquin yn sgwrsio gyda Siân Melangell Dafydd
Mynediad am ddim, lluniaeth ysgafn
Caerfyrddin, Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg 11eg Mehefin 11:00 – 12:30
Christian Guay-Poliquin a Fflur Dafydd yn sgwrsio gydag Elin Haf Gruffydd Jones
Mynediad am ddim, lluniaeth ysgafn
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru / National Botanic Garden of Wales, Llanarthne
11eg Mehefin 14:00- 15:30
Darlleniad gyda Christian Guay-Poliquin a Fflur Dafydd, gyda Carys Ifan yn cadeirio
Mynediad drwy docyn i’r Ardd