Dewislen
English
Cysylltwch

Am yr Hwyluswyr 

Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae ganddi ddiddordeb mewn straeon byrion, drama sain, ffantasi ac arswyd. Mae Nia yn Gymraes sydd â theulu’n hanu o Cape Verde, ac yn ddiweddar enillodd radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd. Yn hydref 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, a gafodd ei hail-ysgrifennu fel sioe fyw ar gyfer Gŵyl Gwên o Haf yn 2021. Mae ei gwaith gan amlaf yn canolbwyntio ar themâu hunaniaeth a goroesi. 

Mae clare e. potter, bardd dwyieithog, cyflwynydd radio, ac artist cyfranogol, ar hyn o bryd yn gorffen ei hail gasgliad barddoniaeth drwy gymorth fwrsariaeth Llenyddiaeth Cymru a grant gan y Society of Authors. Mae hi’n gweithio ar brosiectau i hwyluso llesiant ac ysgrifennu trwy fyd natur ac yn dysgu ymarfer therapi barddoniaeth diolch i gyllid gan Gyngor y Celfyddydau. Bu’n cyfarwyddo rhaglen ddogfen BBC Wales am ei barbwr pentref a bydd yn cyflwyno rhaglenni barddoniaeth ar gyfer radio’r BBC eleni. 

Cliciwch yma i drefnu eich sesiwn:

Ffurflen Cofrestru

Nôl i Cymru Ni