Dewislen
English
Cysylltwch

Cymru Ni

Nawdd o 50% i Ysgolion tuag at Weithdai gan Awduron o Liw  

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi cau ar ddydd Gwener 13 Ionawr 2023.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru yn helpu ysgolion i gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gan awduron o liw o Gymru. Rydym yn gwneud hyn trwy gynnig talu 50% o ffi’r awdur.  

Y nod yw fod yr awduron sy’n cyflawni gweithdai Cymru Ni | Our Wales yn ysbrydoli dysgwyr i archwilio ein Cymru fodern mewn modd dychmygus, gan eu helpu i fod yn ‘[d]dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. Gall ysgolion wneud cais am nawdd gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl trefnu gweithdy gydag awdur, a chadarnhau dyddiad ac amser gyda hwy. Gall y gweithdy fod ar unrhyw bwnc, ond mai rhaid iddynt gael eu rhedeg gan awduron o liw sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chyswllt Cymreig cryf.  

Bydd y profiadau addysgol hyn yn cynorthwyo ysgolion i gwrdd â’r argymhellion yn yr adroddiad “Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd” gan Yr Athro Charlotte Williams OBE.  

Gan amlaf, bydd y gweithdai yn para oddeutu 2 awr, ac yn ddelfrydol fe’i cyflwynir i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 neu Gyfnod Allweddol 3. Mae’r cynnig hwn ar gael am amser cyfyngedig, ac mae’n rhaid i’r gweithdai gael eu hamserlennu i ddigwydd cyn diwedd Mawrth 2023.  

Rydym yn disgwyl y bydd galw mawr am y nawdd hwn. Archebwch eich gweithdai nawr!

 

Adborth athro i weithdy blaenorol: 

Ysgol Brynrefail, Llanrug:

“Roedd y sesiwn yn wych. Cafwyd canlyniadau arbennig erbyn diwedd y sesiwn gyda’r myfyrwyr yn rhannu eu cerddi eu hunain.” 

Ysgol Croesyceiliog, Torfaen:

“Am weithdy hynod ysgogol. Cafodd y myfyrwyr hwyl gyda barddoniaeth, ac roedden nhw wedi llwyddo trafod rhai pynciau anodd dros ben.”