
Categori /
Arall
Taith Gerdded Diwylliant Cymreig ym Mannau Brycheiniog
Bydd y daith hanner diwrnod hon yn cael ei chynnal ar Fynydd Illtud gan ddechrau ym Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Bannau Brycheiniog.
Bydd eich tywysydd yn defnyddio’r ardal hon a’r golygfeydd cyfagos o’r parc cenedlaethol i adrodd straeon Bannau Brycheiniog wrthych. Byddwn yn ymweld â henebion cofrestredig yn yr ardal er mwyn ychwanegu diddordeb pellach at ein taith gerdded.
Bydd hyd y daith yn cael ei bennu gan y grŵp ond ni fydd yn hirach na 5km (3 milltir).
Mae’r daith gerdded yn canolbwyntio ar ddod â mythau a straeon a chwedlau Bannau Brycheiniog yn fyw. Wrth i ni deithio drwy’r dirwedd bydd eich tywysydd yn adrodd y mythau, y straeon a’r chwedlau sy’n sail i Ddiwylliant Cymru.