Archwiliodd Ffrwyth Ein Tân, dan arweiniad Siôn Tomos Owen gyda Welcome to Our Woods, bŵer iachau creadigrwydd a natur. Cefnogodd y cam cyntaf Grŵp Therapi Coedwigol Croeso i’r Goedwig, gan helpu oedolion â heriau iechyd meddwl neu anaf i’r ymennydd i fyfyrio ac ysgrifennu o amgylch y tân gwersyll, wedi’i ddogfennu mewn dyddiadur darluniadol o straeon, myfyrdodau a gwaith celf. Roedd yr ail gam yn cynnwys y Grŵp Ieuenctid lleol a sesiynau cymunedol, gydag ymweliadau â’r Crop Cycle a sgyrsiau ar ailgyflwyno rhywogaethau. Mae etifeddiaeth y prosiect yn cynnwys map stori digidol sy’n cysylltu ysgrifennu â llwybrau cerdded coedwig trwy godau QR, a digwyddiad rhannu cyhoeddus ym mis Ebrill 2024.
Yn ystod rhan cyntaf y prosiect, syweddolodd Siôn ar fuddion lu byd natur, fel mae’n archwilio yn y blog Ffrwyth ein Tân.
Rhybudd: Mae’r dyddiadur hwn yn cynnwys themau o iechyd meddwl a hunan-niweidio.
Cafodd Ffrwyth ein Tân ei gefnogi’n lleol gan Croeso i’r Goedwig, ac yn genedlaethol gan Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru.
